Local Senedd member, Natasha Asghar, has congratulated the local winners of the RSPCA’s PawPrints Awards for 2021.
Two local authorities in her South East Wales Region have been recognised together with a Housing Association.
Newport City Council achieved a Gold Stray Dogs Award while Monmouthshire County Council won a Gold Contingency Planning Award.
Merthyr Tydfil Housing Association was awarded a Silver Housing Award.
Natasha Asghar said:
“PawPrints is run by the RSPCA to recognise local authorities, housing associations, contingency planners and other public sector organisations that go above and beyond basic or statutory requirements to ensure higher welfare standards for animals in the services they provide.”
“To see so many local organisations continuing to demonstrate this level of commitment to animal welfare it what has been a very challenging period is wonderful.”
“I congratulate all the winners of this years PawPrints Awards this year on their fantastic achievement.”
Asghar yn llongyfarch enillwyr lleol Gwobrau PawPrints 2021 yr RSPCA.
Mae Natasha Asghar, yr Aelod o’r Senedd lleol, wedi llongyfarch enillwyr lleol Gwobrau PawPrints 2021 yr RSPCA.
Mae dau awdurdod lleol yn ei Rhanbarth De-ddwyrain Cymru wedi’u cydnabod ynghyd â Chymdeithas Dai. Enillodd Cyngor Sir Casnewydd Wobr Aur Cŵn Crwydr ac enillodd Cyngor Sir Fynwy Wobr Aur am Gynllunio wrth Gefn.
Derbyniodd Cymdeithas Tai Merthyr Tudful Wobr Arian yn y categori Tai.
Meddai Natasha Asghar:
“Mae PawPrints yn cael ei gynnal gan yr RSPCA i gydnabod awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, cynllunwyr wrth gefn a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus sy’n mynd y tu hwnt i’r gofynion sylfaenol neu statudol i sicrhau safonau lles uwch ar gyfer anifeiliaid yn y gwasanaethau maen nhw’n eu darparu.
“Mae gweld cymaint o sefydliadau lleol yn parhau i ddangos ymrwymiad fel hwn i les anifeiliaid mewn cyfnod mor anodd yn hyfryd.”
“Rwy’n llongyfarch holl enillwyr Gwobrau PawPrints eleni ar eu cyflawniad anhygoel.”