Natasha Asghar, shadow Minister for Transport in the Senedd, today visited Newport based company Alan R Jones & Sons Ltd, to highlight the vital role played by the logistics industry in our everyday lives.
The logistics industry is worth £127 billion to the UK economy, but its true value is the role it plays in making sure we get everything we need
As such, it is fundamental to the way we live our lives.
Natasha Asghar said:
“ I am delighted to have visited Alan R Jones & Sons Ltd to show my appreciation for a sector that supports the supply chain and ensures the constant flow of critical goods and medical supplies to the NHS, all while facing the worst driver shortage the industry has ever seen.”
“I was pleased to hear what is being done to encourage people into the industry as a career choice and in particular young people, to show the vast range of employment opportunities in the logistics sector, including administration, driving, warehouse, workshop and management.”
“Virtually everything we buy are use has been handled by a number of people-from the producer, to the trucker to the warehouse operative, to the transport manager, and many others in between.”
“But it doesn’t end there because there is the recycling and waste management process developing smarter and more sustainable ways material back into production as goods or energy.”
“I would like to thank the RHA ,Ray Clegg and his team for allowing me to visit and provide me with the opportunity to show my appreciation for all the industry does to keep our economy moving.”
Ray Clegg, Managing Director of Alan R Jones & Sons Ltd said:
“ We are delighted to be receiving support from Natasha and her colleagues”
“It is vital that the Welsh Government recognises the importance of the logistics industry to the Welsh economy, road infrastructure improvements and funding pathways for logistics staff including driver training is essential alongside a common sense approach to the environment that does not restrict the Welsh economy as it comes out of the pandemic”
“As the Road Haulage Association’s Director for Wales I will continue to push the vital importance of our industry across the whole of Wales”
Asghar yn amlygu rôl hanfodol y diwydiant logisteg yn ystod ymweliad â Busnes Casnewydd
Heddiw, bu Natasha Asghar, Gweinidog yr Wrthblaid dros Drafnidiaeth yn y Senedd, yn ymweld â chwmni Alan R Jones & Sons Ltd o Gasnewydd, i dynnu sylw at rôl hanfodol y diwydiant logisteg yn ein bywydau bob dydd.
Mae gwerth y diwydiant logisteg yn £127 biliwn i economi'r DU, ond ei wir werth yw’r modd y mae’n sicrhau bod gennym ein holl anghenion.
Felly, mae'n hanfodol i'r ffordd rydym yn byw ein bywydau.
Meddai Natasha Asghar:
“Rydw i'n falch iawn fy mod wedi ymweld ag Alan R Jones & Sons Ltd i ddangos fy ngwerthfawrogiad o sector sy'n cefnogi'r gadwyn gyflenwi ac sy'n sicrhau llif cyson nwyddau hanfodol a chyflenwadau meddygol i'r GIG, gan gyflawni hyn yn wyneb y prinder gwaethaf o yrwyr a welodd y diwydiant erioed.”
“Roeddwn yn falch o glywed am y camau sydd ar waith i annog pobl i ddewis gyrfa yn y diwydiant ac yn enwedig pobl ifanc, er mwyn dangos yr amrywiaeth eang o gyfleoedd cyflogaeth sydd yn y sector logisteg, gan gynnwys gweinyddu, gyrru, warws, gweithdy a rheoli.”
“Mae bron popeth rydyn ni'n ei brynu ac yn ei ddefnyddio wedi cael ei drafod gan nifer o bobl - o'r cynhyrchydd, i'r gyrrwr lori, y warws, y rheolwr trafnidiaeth, a llawer o rai eraill hefyd.”
“Ond nid dyna yw diwedd y stori, oherwydd mae yna broses ailgylchu a rheoli gwastraff sy'n datblygu ffyrdd clyfrach a mwy cynaliadwy o ddefnyddio’r deunyddiau gwastraff i gynhyrchu nwyddau neu ynni.”
“Hoffwn ddiolch i'r RHA, Ray Clegg a'i dîm am ganiatáu i mi ymweld ac am roi'r cyfle i mi ddangos fy ngwerthfawrogiad o bopeth y mae'r diwydiant cyfan yn ei wneud i gadw ein heconomi ar waith.”
Dywedodd Ray Clegg, Rheolwr Gyfarwyddwr Alan R Jones & Sons Ltd:
“Rydyn ni'n falch iawn o gael cefnogaeth gan Natasha a'i chydweithwyr”
“Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd y diwydiant logisteg i economi Cymru, gwelliannau i seilwaith ffyrdd a llwybrau ariannu ar gyfer staff logisteg gan gynnwys hyfforddi gyrwyr, sy'n hanfodol, ynghyd ag agwedd synhwyrol at yr amgylchedd nad yw'n cyfyngu ar economi Cymru wrth inni ddod allan o'r pandemig”
“Yn fy rôl fel Cyfarwyddwr y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd yng Nghymru, byddaf yn parhau i hyrwyddo pwysigrwydd hanfodol ein diwydiant ledled Cymru gyfan”