Natasha Asghar MS is backing the first Less Survivable Cancers Awareness Day to highlight the critical importance of early diagnosis in improving survival and quality of life for people diagnosed with these cancers.
The LSCT represents six less survivable cancers, lung, liver, brain, oesophageal, pancreatic and stomach, with an average five-year survival rate of just 16%. Together, these less survivable cancers make up nearly half of all common cancer deaths in the UK. Less survivable cancers are difficult to diagnose. Screening programmes are limited or non existent and most of the general public are unaware of common symptoms.
Data released by the LSCT in 2021 showed that awareness of the symptoms of the deadliest cancers is as low as 4% in the UK.
Many patients with a less survivable cancer will only be diagnosed after an emergency admission to hospital or an emergency GP referral after symptoms have become severe
Over 90,000 people will be diagnosed with either lung, liver, brain, stomach, pancreatic and oesophageal cancer in the UK each year. These six cancers account for more than 67,000 deaths a year – around a half of all cancer deaths.
Natasha Asghar said:
“I am pleased to speak out for people diagnosed with less survivable cancers and support the first Less Survivable Cancers Awareness Day.
We know that early diagnosis is crucial and now is the time to work together and make a real difference in life chances for thousands of people across the country who are diagnosed with these cancers each year.”
Anna Jewell, Chair of the Less Survivable Cancers Taskforce added:
“We are delighted that Natasha Asghar is supporting the first Less Survivable Cancers Awareness Day.
“We know that delays in diagnosis lead to much poorer outcomes for patients with these rapidly advancing cancers. We also know the trauma associated with receiving a diagnosis in an emergency setting for both patients and families.
“These cancers are currently difficult or impossible to treat at later stages and the time from diagnosis to death is often brutally short compared to more survivable cancers.
The situation is critical and has been exacerbated by the Covid-19 pandemic.”
I’d like to thank Natasha Asghar for supporting our calls and helping us to close the deadly cancer gap.”
Ends
..........
Asghar yn cefnogi diwrnod ymwybyddiaeth i gau bwlch canser marwol
Mae Natasha Asghar AS yn cefnogi’r Diwrnod Ymwybyddiaeth cyntaf ar gyfer Canserau Llai Goroesadwy i amlygu pwysigrwydd hanfodol diagnosis cynnar ar gyfer gwella goroesiad ac ansawdd bywyd pobl sy’n cael diagnosis o’r canserau hyn.
Mae’r Tasglu Canserau Llai Goroesadwy (LSCT) yn cynrychioli chwe chanser llai goroesadwy, sef canser yr ysgyfaint, yr afu/iau, yr ymennydd, yr oesoffagws, y pancreas a’r stumog, gyda chyfradd goroesi pum mlynedd o ddim ond 16% ar gyfartaledd. Gyda’i gilydd, mae’r canserau llai goroesadwy hyn yn cyfrif am bron i hanner yr holl farwolaethau canser cyffredin yn y DU. Mae’n anodd rhoi diagnosis o ganserau llai goroesadwy. Nid oes llawer o raglenni sgrinio ar gael, os o gwbl, ac nid yw’r rhan fwyaf o’r cyhoedd yn gwybod am y symptomau cyffredin.
Dangosodd data a ryddhawyd gan y Tasglu yn 2021 bod ymwybyddiaeth o symptomau’r canserau mwyaf peryglus mor isel â 4% yn y DU.
Dim ond ar ôl cael eu derbyn ar frys i’r ysbyty neu gael atgyfeiriad brys gan feddyg teulu ar ôl i’w symptomau fynd yn ddifrifol y bydd llawer o gleifion â chanser llai goroesadwy yn cael diagnosis.
Bydd dros 90,000 o bobl yn cael diagnosis o naill ai canser yr ysgyfaint, yr iau, yr ymennydd, y stumog, y pancreas a’r oesoffagws yn y DU bob blwyddyn. Mae’r chwe math o ganser hyn yn cyfrif am fwy na 67,000 o farwolaethau bob blwyddyn – tua hanner yr holl farwolaethau o ganser.
Meddai Natasha Asghar:
“Rwy’n falch o siarad ar ran pobl sydd wedi cael diagnosis o ganser llai goroesadwy a chefnogi’r Diwrnod Ymwybyddiaeth cyntaf ar gyfer y canserau hyn.
Gwyddom fod diagnosis cynnar yn allweddol a nawr yw’r amser i gydweithio a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gyfleoedd bywyd miloedd o bobl ledled y wlad sy’n cael diagnosis o’r canserau hyn bob blwyddyn.”
Ychwanegodd Anna Jewell, Cadeirydd y Tasglu Canserau Llai Goroesadwy:
“Rydym yn falch iawn bod Natasha Asghar yn cefnogi’r Diwrnod Ymwybyddiaeth cyntaf ar gyfer Canserau Llai Goroesadwy.
“Gwyddom fod oedi cyn cael diagnosis yn arwain at ganlyniadau llawer gwaeth i gleifion sydd â’r canserau hyn sy’n gwaethygu’n gyflym. Gwyddom hefyd fod cael diagnosis mewn lleoliad brys yn drawmatig iawn i gleifion a theuluoedd.
“Mae’r canserau hyn yn anodd neu’n amhosibl i’w trin yn eu camau diweddarach ac mae’r amser rhwng diagnosis a marwolaeth yn greulon o fyr yn aml o gymharu â mathau o ganser mwy goroesadwy.
Mae’r sefyllfa’n ddifrifol ac wedi gwaethygu gyda’r pandemig Covid-19.”
Hoffwn ddiolch i Natasha Asghar am gefnogi’n galwadau a’n helpu ni i gau’r bwlch canser marwol.”
Diwedd
......