Local Senedd Member, Natasha Asghar, has welcomed the reopening of the National Roman Legion Museum in Caerleon after its closure for refurbishment and due to coronavirus restrictions.
Natasha was shown around the site by Dai Price, the Museum Manager.
During the tour, Natasha heard about plans to modernise the museum to provide an even more enjoyable experience for visitors.
These include introducing headset tours as well as in person tours with guides.
There are also plans to develop schools sessions to continue a virtual offer alongside the in person activities.
Natasha Asghar said:
“I thoroughly enjoyed my visit to the National Roman Legion Museum which is the second oldest museum in Wales.”
“I am delighted to see it has reopened after having a new roof fitted and then being hit by coronavirus restrictions.”
“During the visit I heard about their ambitious plans to enhance the visitor experience by modernising their facilities and introducing new technology.”
“As I found when visiting Big Pit, the point was made that a three year guaranteed funding package would enable them to plan the future development of the museum for the long term.”
“I am calling on the Welsh Government to provide this much needed certainty.”
“The National Roman Legion Museum offers an exciting and informative day out for all the family and I would like to thank the Manager, Dai Price, for making me so welcome.”
Asghar yn falch o weld Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yn ailagor
Mae Natasha Ashgar, yr Aelod lleol o'r Senedd, yn falch o weld Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion yn ailagor wedi iddi gau ar gyfer ei hailwampio ac oherwydd cyfyngiadau coronafeirws.
Cafodd Natasha ei thywys o amgylch y safle gan Dai Price, Rheolwr yr Amgueddfa.
Yn ystod y daith, clywodd Natasha am gynlluniau i foderneiddio'r amgueddfa er mwyn rhoi profiad hyd yn oed yn fwy pleserus i ymwelwyr.
Mae'r rhain yn cynnwys cyflwyno teithiau gyda chlustffonau a theithiau gyda thywyswyr.
Mae cynlluniau ar y gweill hefyd i ddatblygu sesiynau i ysgolion a pharhau â’r cynnig rhithwir ynghyd â'r gweithgareddau wyneb yn wyneb.
Meddai Natasha Asghar:
“Roedd fy ymweliad ag Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, sef ail amgueddfa hynaf Cymru, yn ddifyr dros ben.”
“Rwy’n falch iawn o weld ei bod wedi ailagor ar ôl cael to newydd wedi’i osod ac yna gorfod cau oherwydd cyfyngiadau coronafeirws.”
“Yn ystod yr ymweliad, clywais am eu cynlluniau uchelgeisiol i wella profiad ymwelwyr drwy foderneiddio eu cyfleusterau a chyflwyno technoleg newydd.”
“Clywais hefyd wrth ymweld â Big Pit, y byddai pecyn ariannu gwarantedig tair blynedd yn eu galluogi i gynllunio datblygiad yr amgueddfa yn y dyfodol yn y tymor hir.”
“Rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu'r sicrwydd hwn sy’n fawr ei angen.”
“Mae Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yn cynnig diwrnod allan cyffrous ac addysgiadol i'r teulu cyfan a hoffwn ddiolch i Dai Price, y Rheolwr, am roi croeso mor gynnes i mi.”