A brand new facility at Serennu Children’s Centre in South East Wales has been dubbed ‘truly remarkable’ by the area’s MS following a special opening ceremony.
Natasha Asghar, Member of the Welsh Parliament, and other dignitaries gathered at the Newport-based centre this week as the new rebound centre was officially unveiled.
The new facility, which features a trampoline and climbing wall, means Serennu can now offer rebound therapy – which combines bouncing, momentum and rhythm.
Serennu, based in the Rogerstone area of Newport, offers care, treatment and activities to children and young people with disabilities and developmental difficulties.
The centre is heavily supported by the charity Sparkle and other facilities at the centre include a hydrotherapy pool, sensory rooms, and a cinema.
Children are also taught vital life skills such as cleaning, budgeting and ironing which helps them greatly when living independently in the future.
Speaking after the official opening, Natasha Asghar MS said:
“It was an absolute pleasure to attend the official opening of the truly remarkable rebound centre and catch a glimpse of some of the children using it.
“Serennu is an amazing centre offering children from all across the area great opportunities and I know it wouldn’t be what it is without the incredible staff and volunteers.
“I have no doubt the rebound centre will be very much welcomed by the children and parents who use Serennu and I can’t wait to see what exciting plans they have lined up next.”
_____________________________________________
Mae cyfleuster newydd sbon yng Nghanolfan Blant Serennu yn ne-ddwyrain Cymru wedi cael ei alw'n 'wirioneddol ryfeddol' gan Aelod o’r Senedd sy’n cynrychioli’r ardal yn dilyn seremoni agoriadol arbennig.
Daeth Natasha Asghar, Aelod o Senedd Cymru, a chynrychiolwyr eraill at ei gilydd yn y ganolfan yng Nghasnewydd yr wythnos hon wrth i'r ganolfan adlamu (rebound centre) newydd gael ei hagor yn swyddogol.
Mae'r cyfleuster newydd, sy'n cynnwys trampolîn a wal ddringo, yn golygu y gall Serennu gynnig therapi adlamu - sy'n cyfuno bownsio, momentwm a rhythm.
Mae Serennu, sydd yn ardal Tŷ-du yng Nghasnewydd, yn cynnig gofal, triniaeth a gweithgareddau i blant a phobl ifanc ag anableddau ac anawsterau datblygiadol.
Mae’r ganolfan yn cael cefnogaeth frwd gan yr elusen Sparkle ac mae cyfleusterau eraill yn y ganolfan yn cynnwys pwll hydrotherapi, ystafelloedd synhwyraidd, a sinema.
Mae plant hefyd yn dysgu sgiliau bywyd hanfodol fel glanhau, cyllidebu a smwddio sydd o help mawr wrth fyw'n annibynnol yn y dyfodol.
Wrth siarad ar ôl yr agoriad swyddogol, dywedodd Natasha Asghar AS:
"Roedd yn bleser pur cael mynychu agoriad swyddogol y ganolfan adlamu wirioneddol ryfeddol hon a gweld rhai o'r plant yn ei defnyddio.
"Mae Serennu yn ganolfan anhygoel sy'n cynnig cyfleoedd gwych i blant o bob rhan o'r ardal ac rwy'n gwybod na fyddai hyn yn bosib heb y staff a'r gwirfoddolwyr anhygoel.
"Does gen i ddim amheuaeth y bydd y ganolfan adlamu yn cael ei chroesawu'n fawr gan y plant a'r rhieni sy'n defnyddio Serennu ac alla i ddim aros i weld pa gynlluniau cyffrous sydd ganddyn nhw ar y gweill.”