A ‘dangerous’ decision to close the overnight minor injuries provision at Nevill Hall Hospital in Abergavenny must be reversed, Natasha Asghar MS has said.
Aneurin Bevan University Health Board has decided to push ahead with the closure despite residents’ concerns and a petition with more than 5,000 signatures.
Minor injuries at Nevill Hall will be closed from 1am until 7am every day – meaning residents will have to travel to Newport for treatment at the Royal Gwent’s minor injuries unit.
Natasha Asghar MS, who represents South East Wales, fears the closure will leave her constituents in a ‘dangerous and difficult’ position.
She said: “I am extremely disappointed to see the health board ignore residents’ legitimate worries and push ahead with this closure regardless.
“Our hospitals are already under immense pressure and closing Nevill Hall minor injuries unit will simply add to the burden.
“Residents now face a fair old trek for treatment with many understandably opting to go to The Grange – which is already struggling – rather than traipse all the way down to the Royal Gwent.
“Aneurin Bevan Health Board must listen to residents and have an urgent rethink over this closure. It’s not acceptable.”
______________________________________________________________
Rhaid newid y penderfyniad 'peryglus' i gau'r ddarpariaeth mân anafiadau dros nos yn Ysbyty Nevill Hall y Fenni, yn ôl Natasha Asghar AS.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi penderfynu bwrw ymlaen â'r cynlluniau i gau er gwaethaf pryderon trigolion a deiseb gyda dros 5,000 o lofnodion.
Bydd yr uned mân anafiadau yn Nevill Hall ar gau o 1am tan 7am bob dydd - sy'n golygu y bydd yn rhaid i drigolion deithio i Gasnewydd i gael triniaeth yn uned mân anafiadau Ysbyty Brenhinol Gwent.
Mae Natasha Asghar AS, sy'n cynrychioli Dwyrain De Cymru, yn poeni y bydd cau yn rhoi ei hetholwyr mewn sefyllfa 'beryglus ac anodd'.
Meddai: "Rwy'n hynod siomedig o weld y bwrdd iechyd yn anwybyddu pryderon dilys preswylwyr ac yn bwrw ymlaen â'r cynlluniau i gau beth bynnag.
"Mae ein hysbytai eisoes dan bwysau aruthrol, a bydd cau uned mân anafiadau Nevill Hall yn ychwanegu at y baich.
"Mae trigolion nawr yn wynebu tipyn o daith am driniaeth gyda llawer yn amlwg yn dewis mynd i'r Grange - sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd - yn hytrach na theithio’r holl ffordd i Ysbyty Brenhinol Gwent.
"Mae'n rhaid i Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan wrando ar drigolion ac ailystyried y bwriad i gau. Dyw hyn ddim yn dderbyniol."