It was eyes down for Natasha Asghar MS recently as she joined the residents at a Treharris residential home for their weekly bingo session.
The South East Wales politician was visiting Ty Bargoed Newydd to meet with the CEO of Age Connects Morgannwg when she gate-crashed the residents’ Monday morning game.
Thankfully, the residents welcomed Natasha with open arms, sharing their experiences of Ty Bargoed Newydd with her before playing a game of bingo herself with them.
Natasha visited the residential home to find out about some of the work Age Connects Morgannwg does at Ty Bargoed Newydd and across Merthyr Tydfil.
Age Connects is a charity for older people offering information, advice, and services to help them stay living independently for as long as possible.
Their dedicated team of staff and volunteers offer support on a variety of issues such as care, legal, health, housing, benefits, learning, leisure, and work.
At Ty Bargoed Newydd, Age Connects has an activity coordinator who puts on a range of events for residents every day including quizzes, bingo, arts and crafts and manicures.
Natasha Asghar MS said:
“It was an absolute privilege to meet some of the residents at Ty Bargoed Newydd and talk with them about what the home, and Age Connects, means to them.
“The volunteers and staff at Age Connects go above and beyond in supporting older people across the region, not just at this one particular residential home – although it’s clear just how much those at Ty Bargoed Newydd cherish their daily activities.
“I am pleased that I got the chance to talk with Rachel Rowlands, the CEO of Age Connects, about the charity’s work and some of the issues they are facing, and I will do all I can to help them in continuing to provide vital services.
“A huge thank you must go to all of the hardworking staff at the residential home as well for all that they do, and I can only apologies to the residents for gate-crashing their bingo.”
_______________________________________________________________________________________
Roedd rhaid i Natasha Asghar AS ganolbwyntio yn ddiweddar wrth iddi ymuno â phreswylwyr cartref preswyl yn Nhreharris ar gyfer eu sesiwn bingo wythnosol.
Roedd y gwleidydd o Dde Ddwyrain Cymru yn ymweld â Thŷ Bargoed Newydd i gwrdd â Phrif Weithredwr Age Connects Morgannwg pan ymunodd â gêm y preswylwyr fore Llun.
Diolch byth, croesawodd y trigolion Natasha â breichiau agored, gan rannu eu profiadau o Dŷ Bargoed Newydd gyda hi cyn iddi ymuno â gêm o bingo gyda nhw.
Ymwelodd Natasha â’r cartref preswyl i weld rhywfaint o’r gwaith mae Age Connects Morgannwg yn ei wneud yn Nhŷ Bargoed Newydd ac ar draws Merthyr Tudful.
Elusen ar gyfer pobl hŷn yw Age Connects sy’n cynnig gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau i’w helpu i barhau i fyw’n annibynnol cyhyd â phosibl.
Mae eu tîm ymroddedig o staff a gwirfoddolwyr yn cynnig cymorth ar amrywiaeth o faterion megis gofal, cyfreithiol, iechyd, tai, budd-daliadau, dysgu, hamdden a gwaith.
Yn Nhŷ Bargoed Newydd, mae gan Age Connects gydlynydd gweithgareddau sy’n cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau i breswylwyr bob dydd gan gynnwys cwisiau, bingo, celf a chrefft a thrin dwylo.
Dywedodd Natasha Asghar AS:
“Roedd yn fraint fawr cyfarfod â rhai o breswylwyr Tŷ Bargoed Newydd a siarad â nhw am yr hyn y mae’r cartref, ac Age Connects, yn ei olygu iddyn nhw.
“Mae gwirfoddolwyr a staff Age Connects yn mynd y tu hwnt i'r gwaith o gefnogi pobl hŷn ar draws y rhanbarth, nid yn unig yn y cartref preswyl penodol hwn – er ei bod yn amlwg cymaint y mae'r rhai yn Nhŷ Bargoed Newydd yn caru eu gweithgareddau dyddiol.
“Rwy’n falch fy mod wedi cael y cyfle i siarad â Rachel Rowlands, Prif Weithredwr Age Connects, am waith yr elusen a rhai o’r problemau y maent yn eu hwynebu, a byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i’w helpu i barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol.
“Rhaid diolch yn fawr iawn i’r holl staff gweithgar yn y cartref preswyl hefyd am bopeth maen nhw’n ei wneud, ac mae’n rhaid i mi ymddiheuro i’r preswylwyr am ymuno â’u gêm bingo heb wahoddiad!”