Natasha Asghar, Senedd Member for South East Wales, has been shortlisted for One Young World’s Politician of the Year Award.
At the heart of every global threat is a failure of leadership.
This new generation is the most informed, most educated, most connected generation in human history.
One Young World identifies, promotes and connects the world’s most impactful young leaders to create a better world, with more responsible, more effective leadership.
Commenting on being shortlisted, Natasha Asghar said:
“I am honoured to announce that I have been included in the shortlist for #OYW2022 Politician of the Year Award!
Established to help counter the low levels of political engagement and increased disillusionment with political processes that young people are experiencing across the world, this award celebrates the world’s leading young politicians who have infiltrated the old guard of politics.
I am delighted to be nominated together with these incredible young politicians who are having a positive global impact and inspiring others with their leadership.”
Ends
.........
Gwleidydd o Went ar restr fer Gwobr Gwleidydd y Flwyddyn One New World
Mae Natasha Asghar, Aelod o’r Senedd dros Dde Ddwyrain Cymru, ar restr fer Gwobr Gwleidydd y Flwyddyn One Young World.
Mae methiant arweinyddiaeth wrth wraidd pob bygythiad byd-eang.
Mae’r genhedlaeth newydd hon yn fwy gwybodus, addysgedig ac yn rhoi mwy o bwys ar gyswllt nag unrhyw genhedlaeth arall yn hanes y ddynol ryw.
Mae One Young World yn nodi, hyrwyddo a chysylltu arweinwyr ifanc mwyaf dylanwadol y byd er mwyn creu gwell byd, gydag arweinyddiaeth fwy cyfrifol ac effeithiol.
Gan roi sylwadau ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Natasha Asghar:
“Mae’n anrhydedd gen i gyhoeddi fy mod wedi fy nghynnwys ar restr fer Gwobr Gwleidydd y Flwyddyn #OYW2022!
Ar ôl cael ei sefydlu i helpu i wrthsefyll y lefelau isel o ymgysylltu gwleidyddol ymysg pobl ifanc a’r cynnydd mewn pobl ifanc sydd wedi eu dadrithio gyda phrosesau gwleidyddol ledled y byd, mae’r wobr hon yn dathlu gwleidyddion ifanc mwyaf blaenllaw’r byd sydd wedi dymchwel hen rwystrau gwleidyddiaeth.
Rwy’n falch iawn o gael fy enwebu gyda’r gwleidyddion ifanc anhygoel hyn sy’n cael effaith gadarnhaol ar lefel fyd-eang ac sy’n ysbrydoli eraill gyda’u harweinyddiaeth.”
Diwedd