South Wales East MS, Natasha Asghar has been asked what would matter most to her at end of life, as she met Marie Curie staff at the Senedd, who spoke about the importance of good palliative and end of life care, and access to it for all.
Natasha joined forces with the Marie Curie Cymru Policy team, Lowri Griffiths and Bethan Edwards at a stand at the Senedd in Cardiff Bay on Wednesday 3rd November, to highlight the leading end of life charity’s work.
Marie Curie Cymru provides care and support to people living with a terminal illness and their loved ones in their hospice and people’s homes. The charity also offers a free Information and Support line, which includes bereavement support. It is the largest charitable funder of palliative and end of life care research in the UK also campaigns for better end of life care for all.
As well lending her support, Natasha is also encouraging people across her South Wales East constituency to start preparing for the National Day of Reflection 2022 by planting spring bulbs and seeds this autumn. The flowers will bloom in time for the day on 23 March 2022 in a sign of hope for a brighter future.
The National Day of Reflection is a day to support the millions of people who’ve been bereaved during the pandemic, and to reflect on the lives of family, friends, neighbours and colleagues who have died from Covid or other causes. The day is a time to pause, reflect and support each other whether of any belief or none.
Natasha said: “Talking about our end of life care wishes with our loved ones is so important to ensure they know how to best support us at our most vulnerable time, and I would encourage everyone to have that conversation as soon as they can. I also hope people across South Wales East, no matter the size of their out-door space, and even inside, will plant a Spring Bulb for the National Day of Reflection and support Marie Curie.
“It’s been a difficult time, with many devastated by the death of a loved one and planting these bulbs and seeing the first shoots awaken can restore our hope for better times to come.”
Lowri Griffiths, Head of Policy and Public Affairs, Wales, for Marie Curie, added: “To have the support of Natasha makes a huge difference to Marie Curie. With her help we are able to raise awareness about what we do and reach more people who need us and encourage more conversations around end of life care, which are needed now more than ever.
“For many, the deep trauma of losing loved ones during Covid is still very real. The National Day of Reflection on 23 March 2022 will be an opportunity to come together to support the millions of people bereaved during the pandemic and remember the people we’ve lost.”
For further information and to pledge to take part in the National Day of Reflection 2022 visit mariecurie.org.uk/dayofreflection
Yr AS lleol Natasha Asghar yn annog sgyrsiau diwedd oes gydag anwyliaid ac yn galw ar y gymuned i blannu bylbiau’r gwanwyn ar gyfer y Diwrnod Myfyrio Cenedlaethol.
Gofynnwyd i Natasha Asghar, AS Dwyrain De Cymru, beth fyddai bwysicaf iddi ar ddiwedd ei hoes, wrth iddi gyfarfod staff Marie Curie yn y Senedd, a fu’n siarad am bwysigrwydd gofal lliniarol a diwedd oes da, a sicrhau bod pawb yn gallu cael y gofal hwnnw.
Ymunodd Natasha â thîm Polisi Marie Curie Cymru, Lowri Griffiths a Bethan Edwards mewn stondin yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mercher 3 Tachwedd, i dynnu sylw at waith yr elusen diwedd oes blaenllaw.
Mae Marie Curie Cymru yn darparu gofal a chymorth i bobl sy’n byw gyda salwch marwol a’u hanwyliaid yn eu hosbis ac yng nghartrefi pobl.. Mae’r elusen hefyd yn cynnig llinell wybodaeth a chymorth am ddim, sy’n cynnwys cymorth profedigaeth. Dyma’r ariannwr elusennol mwyaf ar gyfer ymchwil gofal lliniarol a diwedd oes yn y DU ac mae hefyd yn ymgyrchu dros ofal diwedd oes gwell i bawb.
Yn ogystal â chynnig ei chefnogaeth, mae Natasha hefyd yn annog pobl ledled ei hetholaeth yn Nwyrain De Cymru i ddechrau paratoi ar gyfer Diwrnod Myfyrio Cenedlaethol 2022 drwy blannu bylbiau a hadau’r gwanwyn yr hydref hwn. Bydd y blodau yn blodeuo mewn pryd i’r diwrnod ar 23 Mawrth 2922 mewn arwydd o obaith ar gyfer gwell dyfodol.
Mae’r Diwrnod Myfyrio Cenedlaethol yn ddiwrnod i gefnogi’r miliynau o bobl sydd wedi cael colled yn ystod y pandemig, ac i fyfyrio ar fywydau teulu, ffrindiau, cymdogion a chydweithwyr sydd wedi marw o Covid ac achosion eraill. Mae’r diwrnod yn gyfle i gymryd munud neu ddau i fyfyrio a chefnogi ein gilydd beth bynnag yw ein cred neu waeth a oes gennym gred o gwbl.
Meddai Natasha: “Mae siarad am ein dymuniadau gofal diwedd oes gyda’n hanwyliaid mor bwysig i sicrhau eu bod yn gwybod sut i’n cefnogi orau ar ein hadegau mwyaf bregus, a byddwn yn annog pawb i gael y sgwrs honno cyn gynted â phosibl. Gobeithio y bydd pobl ledled Dwyrain De Cymru, pa faint bynnag o ardd neu falconi sydd ganddynt, a hyd yn oed dan do, yn plannu bwlb gwanwyn ar gyfer y Diwrnod Myfyrio Cenedlaethol ac yn cefnogi Marie Curie.
“Mae wedi bod yn amser anodd, gyda llawer yn torri eu calonnau ar ôl marwolaeth rhywun agos a bydd plannu’r bylbiau hyn a gweld yr egin cyntaf yn ymddangos yn adfer ein gobaith am amser gwell i ddod.”
Ychwanegodd Lowri Griffiths, Pennaeth Polisi a Materion Cyfoes, Cymru ar gyfer Marie Curie: “Mae cael cymorth Natasha yn gwneud gwahaniaeth enfawr i Marie Curie. Gyda’i chymorth rydym yn gallu codi ymwybyddiaeth o’r hyn rydym yn ei wneud a chyrraedd mwy o bobl sydd ein hangen ac annog mwy o sgyrsiau am ofal diwedd oes, sydd eu hangen nawr fwy nag erioed.
“I lawer, mae’r trawma dwys o golli anwyliaid yn ystod Covid yn brathu o hyd. Bydd y Diwrnod Myfyrio Cenedlaethol ar 23 Mawrth 2022 yn gyfle i ddod at ein gilydd i gefnogi’r miliynau o bobl sydd wedi colli rhywun yn ystod y pandemig a chofio’r bobl rydym wedi’u colli.”
Am ragor o wybodaeth ac i roi addewid i gymryd rhan yn Niwrnod Myfyrio Cenedlaethol 2022, ewch i mariecurie.org.uk/dayofreflection