Natasha received a warm and enthusiastic welcome from Helen Pembridge, owner of The Bridal Lounge who was beaming following the news that her boutique is in the finals of The Best of Welsh Wedding Awards, in addition to being a finalist in The Welsh National Wedding Awards!
Helen described how she and her husband set up the business just as the UK was emerging from Covid. Such was its success, that a move to a larger premises was needed and in September they opened the doors of their elegant new boutique. “Pontypool College is where I met my husband so Pontypool has a special place in my heart and it’s closer to home,” said Helen.
Helen gave Natasha a full tour and explained that “all The Bridal Lounge dresses and accessories are created by UK designers, which not only supports our economy, it means our brides receive their beautiful dresses sometimes within 48 hours!”.
Natasha enjoyed what a bride-to-be would experience as part of their private appointment. “Helen has the most breath-taking array of gorgeous dresses. The boutique is a fairy tale wonderland and any bride is certain to have a magical and unforgettable visit. It’s great to experience Helen’s enthusiasm, expertise and entrepreneurial spirit here in South Wales. I have everything crossed for The Bridal Lounge at next month’s awards evenings," added Natasha.
Follow @The Bridal Lounge on Facebook and @The Bridal Lounge on Instagram
________________________________________________________
Cafodd Natasha groeso cynnes a brwdfrydig gan Helen Pembridge, perchennog The Bridal Lounge a oedd ar ben ei digon yn dilyn y newyddion fod ei bwtîc wedi cyrraedd rowndiau terfynol Gwobrau Priodas Gorau Cymru, yn ogystal â chyrraedd rownd derfynol Gwobrau Priodas Cenedlaethol Cymru!
Disgrifiodd Helen sut y sefydlodd hi a'i gŵr y busnes fel yr oedd y DU yn dod dros Covid. Roedd mor llwyddiannus fel bod angen symud i adeilad mwy ac ym mis Medi agorwyd drysau’r bwtîc newydd. "Fe wnes i gyfarfod fy ngŵr yng Ngholeg Pont-y-pŵl felly mae gan y dref le arbennig yn fy nghalon ac mae'n agosach at adref," meddai Helen.
Cafodd Natasha daith lawn o’r siop ac eglurodd fod "holl ffrogiau ac ategolion The Bridal Lounge yn cael eu creu gan ddylunwyr yn y DU, sydd nid yn unig yn cefnogi ein heconomi, ond hefyd yn golygu bod pob priodferch yn derbyn eu ffrogiau hardd, weithiau o fewn 48 awr".
Cafodd Natasha brofi’r hyn y byddai darpar briodferch yn ei brofi fel rhan o'i hapwyntiad preifat. "Mae gan Helen yr amrywiaeth fwyaf syfrdanol o ffrogiau hyfryd. Mae'r bwtîc yn stori tylwyth teg go iawn a bydd unrhyw briodferch yn sicr o gael ymweliad hudolus a bythgofiadwy. Mae'n wych cael blas ar frwdfrydedd, arbenigedd ac ysbryd entrepreneuraidd Helen yma yn Ne Cymru. Byddaf yn croesi popeth ar gyfer The Bridal Lounge yn y nosweithiau gwobrwyo fis nesaf," ychwanegodd Natasha.
Dilynwch @ The Bridal Lounge ar Facebook a @ The Bridal Lounge ar Instagram