Natasha Asghar MS went behind-the-scenes of Netflix’s smash hit series Sex Education as cameras were rolling for show’s fourth series recently.
The politician, who represents South East Wales in the Welsh Parliament, was given a tour of the show’s impressive set and managed to catch a glimpse of the show being recorded.
She met with some of the cast and crew of the award-winning comedy drama series at the show’s studios in Newport.
Senior production staff shed some light on just a bit of the work that goes into making the series and gave Natasha a tour of all the different sets used.
The show – starring the likes of Gillian Anderson, Asa Butterfield and the new Doctor Who Ncuti Gatwa – has firmly put South East Wales and the country as a whole on the world stage since series one aired.
Locations across the region, including Monmouthshire and the former University of Wales Caerleon Campus, have featured heavily in the show – which has been viewed by millions of people around the world.
Speaking after the visit, Natasha Asghar MS said:
“As a huge fan of Sex Education, it was fantastic to be given a sneak-peek of the upcoming series which without a doubt will not disappoint its millions of fans worldwide.
“To have the show filmed in our back yard – and to have many local people employed as a result – is a huge success story for the area and Sex Education has firmly put South East Wales on the map.
“More and more TV shows and films are being shot across the region and I hope we will continue to see that trend grow so we boost Wales’ image as a filming destination of choice and help our creative industries.”
Series 4 of Sex Education dropped on Netflix last week.
___________________________________________________________________________
Aeth Natasha Asghar AS y tu ôl i lenni cyfres boblogaidd Sex Education Netflix wrth i’r ffilmio ddechrau ar gyfer y bedwaredd gyfres yn ddiweddar.
Cafodd y gwleidydd, sy'n cynrychioli Ddwyrain De Cymru yn y Senedd, daith o amgylch y set drawiadol a llwyddodd i gael cipolwg ar y sioe yn cael ei recordio.
Cyfarfu â rhai o gast a chriw'r gyfres ddrama gomedi arobryn yn stiwdios y sioe yng Nghasnewydd.
Rhoddodd yr uwch staff cynhyrchu ragflas iddi o’r gwaith a wneir i greu'r gyfres a chafodd Natasha daith o amgylch yr holl wahanol setiau a ddefnyddiwyd.
Mae'r sioe – sy’n serennu Gillian Anderson, Asa Butterfield a'r Doctor Who newydd Ncuti Gatwa – wedi rhoi De-ddwyrain Cymru a'r wlad gyfan yn gadarn ar lwyfan y byd ers i'r gyfres gyntaf gael ei darlledu.
Mae lleoliadau ledled y rhanbarth, gan gynnwys Sir Fynwy a chyn Gampws Prifysgol Cymru yng Nghaerllion, wedi ymddangos yn gyson yn y sioe - sydd wedi cael ei gweld gan filiynau ym mhedwar ban byd.
Wrth siarad ar ôl yr ymweliad, dywedodd Natasha Asghar AS:
"Fel un o selogion Sex Education, roedd hi’n wych cael blas ar y gyfres sydd i ddod a fydd yn sicr o gyffroi ei miliynau o ddilynwyr ledled y byd.
"Mae ffilmio'r gyfres ar garreg ein drws – a’r ffaith bod llawer o bobl leol yn cael eu cyflogi o ganlyniad - yn llwyddiant ysgubol i'r ardal ac mae Sex Education wedi rhoi De-ddwyrain Cymru ar y map.
"Mae mwy a mwy o sioeau teledu a ffilmiau yn cael eu ffilmio ar draws y rhanbarth a gobeithio y byddwn yn parhau i weld y tueddiad hwnnw'n tyfu, gan roi hwb pellach i ddelwedd Cymru fel cyrchfan ffilmio a helpu ein diwydiannau creadigol."
Dechreuodd Cyfres 4 Sex Education ar Netflix yr wythnos diwethaf.