Newport baking entrepreneur, Tegan Godden, amid cakes, picnic boxes and baguettes, warmly welcomed Natasha Asghar MS to her shop, Bonkers Bakes in Brynglas Road.
Tegan, aged 20, told the Regional Member for South East Wales, that only a couple years ago whilst still at college, she researched, planned and submitted a business case to a scheme organised by Barnardo’s to encourage young people into business. Tegan won and was awarded £10,000 which she used to open her premises in December and hasn’t looked back since.
“I love baking and love having my shop. It’s hard, but really rewarding work and I know this is just the start of my business career. It’s great to be part of the community and I love seeing customers return,” said Tegan.
Natasha added: “It was a such treat, in so many ways, to visit Tegan and hear her inspirational story and see her serving a steady stream of customers whilst I was there.
“As a young, inspirational woman who was born and raised in Newport Tegan has boundless enthusiasm, talent and community spirit. It was a complete joy to meet her. She is unquestionably a courageous, ambitious female entrepreneur and after hearing her story and her journey I plan to connect her with various groups and organisations who will hopefully support her with her future ambitions.
“I must say the picnic boxes, assortment of delicious of cakes are all homemade. They not only looked incredible but tasted delicious. I’ll definitely be popping back for more!”, said Natasha.
Follow Bonkers Bakes Newport on Facebook and @bonkersbakesbytegan on Insta.
_______________________________________________________________________
Yng nghanol cacennau, bocsys picnic a bara croesawodd yr entrepreneur pobi o Gasnewydd, Tegan Godden, Natasha Asghar AS yn gynnes i'w siop, Bonkers Bakes yn Heol Brynglas.
Dywedodd Tegan, sy'n 20 oed, wrth yr Aelod Rhanbarthol dros Ddwyrain De Cymru, ychydig flynyddoedd yn ôl tra roedd hi dal i fod yn y coleg, ei bod wedi ymchwilio, cynllunio a chyflwyno achos busnes i gynllun a drefnwyd gan Barnardos i annog pobl ifanc i fyd fusnes. Enillodd Tegan a dyfarnwyd £10,000 i’w ddefnyddio i agor ei busnes. Gwnaeth hynny ym mis Rhagfyr a dyw hi ddim wedi edrych yn ôl ers hynny.
"Rwyf wrth fy modd yn coginio ac wrth fy modd bod gen i siop. Mae'n waith caled, ond gwerth chweil ac rwy'n gwybod mai dim ond megis dechrau ydw i. Mae'n wych bod yn rhan o'r gymuned a dwi wrth fy modd yn gweld cwsmeriaid yn dychwelyd," meddai Tegan.
Ychwanegodd Natasha: "Roedd hi mor braf ymweld â Tegan a chlywed ei stori ysbrydoledig a'i gweld yn gweini llif cyson o gwsmeriaid tra roeddwn i yno.
"Fel menyw ifanc, ysbrydoledig a gafodd ei geni a'i magu yng Nghasnewydd, mae gan Tegan frwdfrydedd, talent ac ysbryd cymunedol di-ben-draw. Roedd hi'n bleser pur cwrdd â hi. Heb os, mae'n entrepreneurwraig ddewr ac uchelgeisiol ac ar ôl clywed ei stori a'i thaith rwy'n bwriadu dod â hi i gysylltiad â gwahanol grwpiau a sefydliadau a fydd, gobeithio, yn ei chefnogi gyda'i huchelgeisiau i’r dyfodol.
"Mae'r holl focsys picnic a’r cacennau blasus amrywiol wedi'u gwneud gartref. Maen nhw nid yn unig yn edrych yn anhygoel ond roedden nhw’n flasus dros ben. Byddaf yn bendant yn dod yn ôl am fwy!" meddai Natasha.
Dilynwch Bonkers Bakes Newport ar Facebook a @bonkersbakesbytegan ar Insta.