Social media and opportunities within the technology industry were the hot topics of conversation when Natasha Asghar MS met with Twitter and YouTube recently.
The Member of the Senedd for South East Wales – who is also the Shadow Minister for Transport and Technology – met with the tech giants at their respective headquarters in London.
It was all part of Natasha’s plan to create more opportunities for young people in Wales and boost innovation across the country.
They talked about staging events in Wales to engage with students and show them what opportunities are available to them in the industry as well as the possibility of creating a tech hub in South Wales.
The UK Government’s imminent Online Safety Bill, tackling online abuse and investment were just a few of the other topics discussed.
Natasha Asghar MS said:
“Twitter and YouTube are two of the biggest companies in the world and are used by millions of people every day so it was fantastic to hear about some of the work they are doing and their very exciting future plans.
“It is no secret that one of my biggest aims is to connect young people across the country with high-quality job opportunities and highlight some of the amazing career paths available to them which they wouldn’t otherwise know about.
“I am delighted that Twitter and YouTube are willing to play their part and I look forward to working with both companies going forward on this project. Watch this space.”
__________________________________________________
Y cyfryngau cymdeithasol a chyfleoedd yn y diwydiant technoleg oedd y pynciau trafod llosg pan gyfarfu Natasha Asghar AS gyda Twitter ac YouTube yn ddiweddar.
Cafodd yr Aelod o’r Senedd dros Dde-Ddwyrain Cymru - sydd hefyd yn Weinidog Trafnidiaeth a Thechnoleg yr Wrthblaid - gyfarfod gyda’r cewri technoleg yn eu pencadlysoedd yn Llundain.
Roedd hyn i gyd yn rhan o gynllun Natasha i greu rhagor o gyfleoedd i bobl ifanc yng Nghymru ac i hybu arloesedd ledled y wlad.
Siaradwyd am gynnal digwyddiadau yng Nghymru i ennyn diddordeb myfyrwyr a dangos pa gyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw yn y diwydiant ynghyd â’r posibilrwydd o greu hyb technoleg yn y De.
Roedd Bil Diogelwch Ar-lein newydd Llywodraeth y DU i fynd i’r afael â cham-drin ar-lein a buddsoddi ymhlith y pynciau a drafodwyd.
Meddai Natasha Asghar AS:
“Mae Twitter ac YouTube yn ddau o’r cwmnïau mwyaf yn y byd ac yn cael eu defnyddio gan filiynau o bobl bob dydd, felly roedd hi’n wych clywed am rywfaint o’r gwaith maen nhw’n ei wneud a’u cynlluniau cyffrous ar y naw i’r dyfodol.
“Dyw hi ddim yn gyfrinach mai un o’m prif nodau yw cysylltu pobl ifanc ledled y wlad â chyfleoedd am swyddi o ansawdd uchel a thynnu sylw at y llwybrau gyrfa anhygoel sydd ar gael iddyn nhw, na fydden nhw’n ymwybodol ohonyn nhw fel arall.
“Rwy’n falch iawn fod Twitter ac YouTube yn fodlon cyfrannu ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r ddau gwmni wrth symud y prosiect hwn yn ei flaen. Gwyliwch y gofod!”