Natasha Asghar MS has paid tribute to current and former service personnel ahead of this year’s Armed Forces Day.
The South East Wales Senedd Member praised the Armed Forces for all the fantastic work they do in keeping the country safe, and paid tribute to those who have sadly lost their lives.
Natasha’s comments came as she attended a special Armed Forces Day event alongside other dignitaries at Monmouthshire County Council’s headquarters in Usk today (June 20).
Natasha Asghar MS said:
“Our Armed Forces do a fantastic job in keeping the country safe and it is only right we come together to celebrate the work they do and have done in the past.
“I was honoured to attend a very moving ceremony at Monmouthshire County Council’s headquarters with powerful contributions from a number of dignitaries.
“This Saturday we should all take a moment to show our support for the Armed Forces and reflect on the huge sacrifices they make every single day.”
_________________________________________________________
AS yn talu teyrnged i aelodau o’r lluoedd arfog cyn Diwrnod y Lluoedd Arfog
Mae Natasha Asghar AS wedi talu teyrnged i aelodau’r lluoedd arfog, ddoe a heddiw, cyn Diwrnod y Lluoedd Arfog eleni.
Bu’r Aelod o’r Senedd dros Dde-ddwyrain Cymru yn canmol y Lluoedd Arfog am yr holl waith rhagorol maen nhw’n ei wneud yn cadw ein gwlad yn ddiogel, a thalodd deyrnged i’r rhai sydd wedi colli eu bywydau.
Daeth sylwadau Natasha wrth iddi fynychu digwyddiad arbennig Diwrnod y Lluoedd Arfog gyda phwysigion eraill ym mhencadlys Cyngor Sir Fynwy ym Mrynbuga heddiw (20 Mehefin).
Meddai Natasha Asghar AS:
“Mae ein Lluoedd Arfog yn gwneud gwaith rhagorol yn cadw’r wlad yn ddiogel a dyw hi ond yn iawn ein bod yn dod at ein gilydd i ddathlu’r gwaith y maen nhw’n ei wneud ac wedi’i wneud yn y gorffennol.
“Roedd hi’n anrhydedd i mi gael mynychu seremoni dwymgalon dros ben ym mhencadlys Cyngor Sir Fynwy a chafwyd cyfraniadau pwerus gan nifer o bwysigion.
“Ddydd Sadwrn, dylai pawb roi munud neu ddau o’u hamser i ddangos ein cefnogaeth i’r Lluoedd Arfog a myfyrio ar yr aberthau enfawr y maen nhw’n eu gwneud bob diwrnod.”