A world-leading company creating first and business class seats for major airlines around the globe was the latest destination of choice for Natasha Asghar MS.
The South East Wales politician visited Safran Seats, which has three bases in Cwmbran and one in Newport, for a tour and to find out more about the impressive company.
Natasha saw first-hand some of Safran Seats’ market-leading technology including Euphony - an award-winning headset free audio solution designed and developed in Wales.
During the tour, Natasha was also given an insight into the investment being made by the company in training, digitalisation, and facilities.
Natasha also met with some of the company’s apprentices and talked about the training scheme, which will be doubling in size this year.
Safran Seats employs more than 800 highly skilled people in the UK with nearly 5,000 employees in five countries.
Natasha, who is also Wales’ Shadow Minister for Technology, met with senior staff at Safran Seats including CEO Veronique Bardelmann.
Speaking after the visit, Natasha Asghar MS:
“To have such a world-leading company right on our doorstep in South East Wales is truly amazing and it was great to get an insight Safran Seats.
“These world-leading products are being designed and developed just up the road in Cwmbran and then provided to airlines around the world – which is a fantastic success story for the region.
“As well as the great work being carried out, I was particularly pleased to find out more about the apprenticeship scheme on offer and meet with some of those going through it at the moment.
“I am very much looking forward to working closely with Safran Seats on a range of projects and issue.”
_________________________________________
Ymweliad diweddaraf Natasha Asghar AS oedd cwmni o’r radd flaenaf sy’n creu seddi dosbarth cyntaf a busnes ar gyfer cwmnïau hedfan mawr ledled y byd.
Ymwelodd y gwleidydd o Dde Ddwyrain Cymru â Safran Seats, sydd â thair canolfan yng Nghwmbrân ac un yng Nghasnewydd, am daith o’r safle ac i ddarganfod mwy am y cwmni cyffrous.
Gwelodd Natasha â’i llygaid ei hun y dechnoleg sy’n arwain y farchnad gan Safran Seats, gan gynnwys Euphony – datrysiad sain heb glustffonau arobryn a ddyluniwyd ac a ddatblygwyd yng Nghymru.
Yn ystod y daith, cafodd Natasha gipolwg hefyd ar y buddsoddiad sy'n cael ei wneud gan y cwmni mewn hyfforddiant, digideiddio a chyfleusterau.
Gwnaeth Natasha hefyd gyfarfod â rhai o brentisiaid y cwmni a siarad am y cynllun hyfforddi, a fydd yn dyblu mewn maint eleni.
Mae Safran Seats yn cyflogi dros 800 o bobl fedrus iawn yn y DU gyda bron i 5,000 o weithwyr mewn pum gwlad.
Gwnaeth Natasha, sydd hefyd yn Llefarydd yr Wrthblaid dros Dechnoleg yng Nghymru, gyfarfod ag uwch staff yn Safran Seats gan gynnwys y Prif Swyddog Gweithredol Veronique Bardelmann.
Tra’n siarad ar ôl yr ymweliad, dywedodd Natasha Asghar AS:
“Mae cael cwmni mor flaengar ar garreg ein drws yn Ne Ddwyrain Cymru yn wirioneddol anhygoel ac roedd yn wych cael cipolwg ar Safran Seats.
“Mae’r cynhyrchion hyn sy’n arwain y byd yn cael eu dylunio a’u datblygu ychydig i fyny’r ffordd yng Nghwmbrân ac yna’n cael eu darparu i gwmnïau hedfan ledled y byd – sy’n stori lwyddiant wych i’r rhanbarth.
“Yn ogystal â’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud, roeddwn yn arbennig o falch o gael gwybod mwy am y cynllun prentisiaeth sydd ar gael a chwrdd â rhai o’r rhai sy’n rhan o’r cynllun ar hyn o bryd.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio’n agos gyda Safran Seats ar ystod o brosiectau a materion.”