Tramshed Tech gave Natasha Asghar MS a tour of their Griffin House office space, providing tech startups with the workplace they need to succeed.
They opened in the area as part of Newport Market’s regeneration scheme, providing 28 modern office spaces to up-and-coming tech businesses.
There’s an innovation team and a design team onsite to help these startups to grown and learn, providing that confidence and support to jump into business.
For those looking to release professional podcasts or audio, there is even a soundproofed studio available for use.
An ethos of collaboration and connectivity centres the building, with the belief that it is important for all the companies using the space to have the potential to collaborate.
Tramshed Tech are due to open another premises in the old Information Station in Newport, allowing more tech businesses the opportunity to grow and expand in the city.
Speaking after the visit, Natasha Asghar MS said:
"As the Shadow Minister for Transport and Technology, it’s fantastic to see tech startup support right here in my region.
"This also provides employment potential for those in Newport looking for something new and innovative.
"I am very much looking forward to seeing what exciting new tech businesses will grow out of Newport in the coming years."
_______________________________________________________
Rhoddodd Tramshed Tech daith i Natasha Asghar MS o gwmpas eu gofod swyddfa yn Griffin House, sy’n rhoi’r gweithle sydd ei angen ar fusnesau technoleg newydd i lwyddo.
Fe agoron nhw yn yr ardal fel rhan o gynllun adfywio Marchnad Casnewydd, gan ddarparu 28 o ofodau swyddfa modern i fusnesau technoleg newydd.
Mae tîm arloesi a thîm dylunio ar y safle i helpu'r busnesau cychwynnol hyn i dyfu a dysgu, gan ddarparu'r hyder a'r gefnogaeth honno i gamu i mewn i fyd busnes.
I'r rhai sydd am ryddhau podlediadau proffesiynol neu sain, mae hyd yn oed stiwdio seinglos ar gael i'w ddefnyddio.
Mae ethos o gydweithio a chysylltedd drwy’r adeilad, gyda'r gred ei bod yn bwysig i'r holl gwmnïau sy'n defnyddio'r gofod gael y potensial i gydweithio.
Mae disgwyl i Tramshed Tech agor safle arall yn yr hen Orsaf Wybodaeth yng Nghasnewydd, gan roi cyfle i fwy o fusnesau technoleg dyfu ac ehangu yn y ddinas.
Wrth siarad ar ôl yr ymweliad, dywedodd Natasha Asghar AS:
"Fel Gweinidog Trafnidiaeth a Thechnoleg yr Wrthblaid, mae'n wych gweld cefnogaeth i fusnesau technoleg newydd yma yn fy rhanbarth.
"Mae hyn hefyd yn cynnig y potensial cyflogaeth i'r rhai yng Nghasnewydd sy'n chwilio am rywbeth newydd ac arloesol.
"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld pa fusnesau technoleg newydd cyffrous fydd yn blaguro o Gasnewydd yn y blynyddoedd i ddod."