Growing Space, which started up in Tredegar House over 30 years ago, treated Natasha Asghar MS to a tour of their beautiful gardens recently.
The charity, which now operates all over Gwent and with over 60 staff, offers a wide range of help to the community.
From carpentry workshops to interview support, Growing Space aims to help people into work by giving them the skills and training required to succeed.
Their ethos is to get people outdoors and eating healthily, drawing from nature’s benefits on mental health.
Sadly, with the lack of mental health services in South East Wales, charities like Growing Space are seeing more and more referrals.
One of the charity’s aims is to try and prevent reoccurrences in A&E, taking the strain off of the NHS but also providing the care that people deserve.
The NHS waiting times for mental health patients was an issue that was brought up regularly throughout the visit.
The team at Growing Space were optimistic, however, and with such a fantastic space at Tredegar House it’s clear as to why.
Not only do they have gardens for growing fresh produce but also a shop, a kitchen for cookery classes and even planters at a suitable height for wheelchair users – so nobody misses out.
Speaking after the visit, Natasha Asghar MS:
“Seeing all the fantastic work at Growing Space was a breath of fresh air – literally!
“Mental health services are seriously struggling right now, and patients having to reach out to charity organisations shows a clear gap in the system.
“Everybody, regardless of their journey, deserves the opportunity to develop their skills and get back out into the community. Growing Space provides just that.”
__________________________________________________________________________
Cafodd Natasha Asghar AS ei sbwylio yn ddiweddar gan Growing Space, elusen a ddechreuodd yn Nhŷ Tredegar dros 30 mlynedd yn ôl, gyda thaith o amgylch eu gerddi hardd.
Mae'r elusen, sydd bellach yn gweithredu ledled Gwent ac sydd â dros 60 o staff, yn cynnig ystod eang o gymorth i'r gymuned.
O weithdai gwaith coed i gymorth ar gyfer gwneud cyfweliadau, nod Growing Space yw helpu pobl i gael gwaith trwy roi'r sgiliau a'r hyfforddiant sydd eu hangen arnyn nhw i lwyddo.
Eu hethos yw cael pobl allan yn yr awyr agored a bwyta'n iach, gan fanteisio ar fuddion natur i iechyd meddwl.
Yn anffodus, gyda'r diffyg gwasanaethau iechyd meddwl yn Ne-ddwyrain Cymru, mae elusennau fel Growing Space yn gweld mwy a mwy o atgyfeiriadau.
Un o nodau'r elusen yw ceisio atal pobl rhag mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys dro ar ôl tro, gan ysgafnhau’r pwysau ar y GIG ond hefyd darparu'r gofal y mae pobl yn ei haeddu.
Roedd amseroedd aros y GIG ar gyfer cleifion iechyd meddwl yn fater a gafodd ei grybwyll yn rheolaidd gydol yr ymweliad.
Roedd y tîm yn Growing Space yn obeithiol, fodd bynnag, ac mewn lle mor wych â Thŷ Tredegar mae'n hawdd gweld pam.
Nid yn unig mae ganddyn nhw erddi ar gyfer tyfu cynnyrch ffres ond hefyd siop, cegin ar gyfer dosbarthiadau coginio a hyd yn oed potiau plannu ar uchder addas i ddefnyddwyr cadair olwyn - felly does neb yn colli cyfle.
Yn siarad ar ôl yr ymweliad, dywedodd Natasha Asghar AS:
"Roedd gweld yr holl waith gwych yn Growing Space yn chwa o awyr iach - yn llythrennol!
"Mae gwasanaethau iechyd meddwl yn ei chael hi'n anodd iawn ar hyn o bryd, ac mae’r ffaith bod cleifion yn gorfod estyn allan i sefydliadau elusennol yn dangos bwlch clir yn y system.
"Mae pawb, waeth beth yw eu taith, yn haeddu'r cyfle i ddatblygu eu sgiliau a mynd yn ôl allan i'r gymuned. Mae Growing Space yn cynnig hynny."