Natasha Asghar MS visited St Andrew's Primary School in Jenkins Street, Newport to find out more about the big building programme before being interviewed by pupils at the school’s very own Radio REACH.
Mrs Nowaczyk, Assistant Headteacher, talked Natasha through the building plan and timeframe for the work, which includes spacious new classrooms, and all the benefits for pupils and staff when the build is completed next year.
The next part of the visit took place at St Andrew's Primary School’s Newport Connect Centre. Year 6 pupils, Seren and Bella who have the important prefect role of First Ministers, confidently formed the welcoming party when Natasha arrived, alongside Deputy Headteacher Mrs Charles.
Seren and Bella guided the MS for South East Wales and Shadow Minister for Transport and Technology to the Radio REACH studio and enthusiastically explained the programme schedule and what their roles as DJs entailed.
Once inside in the studio, the Year 5 ‘News Dudes’ and investigative journalists, Hannah, Alisha and Lillie ushered Natasha to the table set with microphones and technical kit. The trio began the interview under the guidance of Miss Price, the lead teacher for Radio REACH.
Natasha said: “The pupils had clearly undertaken a lot of background research on me! I spotted my photo and career history up on the wall and they posed some searching questions ranging from who inspired me to go into politics (my dad), what I was working on at the moment (20mph and travel card for Wales), my hobbies (extreme sports), and a fun quick-fire round including music choices (Ed Sheeran, Ariana Grande, Adele) and sporting preferences (rugby) among other revelations!
Lillie, Alisha and Hannah were impressive interviewers. They were engaged, confident and clearly relished the opportunity to prep, plan and record their interviews. I was very impressed indeed and they kept me on the edge of my seat!” added Natasha.
Miss Price said: “We were all thrilled to welcome Natasha to our school and studio. The pupils really enjoyed interviewing her; she was so encouraging and supportive and they all said how interesting her job as an MS sounded. We definitely have some radio presenters and potentially some future politicians here in our school!”
Natasha added: “I was so pleased to support and take part in the Radio REACH initiative and commend the teachers for creating the opportunity for pupils to explore and experience the world of media.”
Enjoy the interview via this link St Andrew's Primary School | Newport | Wales (standrews.wales)
_______________________________________________________________
Ymwelodd Natasha Asghar AS ag Ysgol Gynradd Sant Andreas, Stryd Jenkins, Casnewydd i gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen adeiladu fawr cyn cael ei chyfweld gan ddisgyblion ar Radio REACH yr ysgol ei hun.
Bu Mrs Nowaczyk, y Pennaeth Cynorthwyol, yn sôn wrth Natasha am y cynllun adeiladu a'r amserlen ar gyfer y gwaith, sy'n cynnwys ystafelloedd dosbarth newydd eang, a'r holl fanteision i ddisgyblion a staff pan fydd y gwaith adeiladu yn cael ei gwblhau'r flwyddyn nesaf.
Cynhaliwyd rhan nesaf yr ymweliad yng Nghanolfan Cyswllt Casnewydd Ysgol Gynradd Sant Andreas. Y disgyblion Blwyddyn 6, Seren a Bella, sydd â rôl swyddogion pwysig fel Prif Weinidogion, a groesawodd Natasha yn hyderus, ochr yn ochr â'r Dirprwy Bennaeth Mrs Charles.
Cafodd yr AS dros Ddwyrain De Cymru a Gweinidog dros Drafnidiaeth a Thechnoleg yr Wrthblaid ei thywys gan Seren a Bella i stiwdio Radio REACH. Buont yn egluro amserlen y rhaglen yn frwdfrydig a beth oedd eu rolau fel DJs yn ei olygu.
Yn y stiwdio, aeth y 'News Dudes' o Flwyddyn 5 a’r newyddiadurwyr ymchwiliol, Hannah, Alisha a Lillie, ati i arwain Natasha at fwrdd gyda meicroffonau pwrpasol a chit technegol. Dechreuodd y tair y cyfweliad dan arweiniad Miss Price, athrawes arweiniol Radio REACH.
Meddai Natasha: "Roedd y disgyblion yn amlwg wedi ymchwilio i’m cefndir! Sylwais ar fy llun a hanes fy ngyrfa ar y wal ac fe ofynnon nhw gwestiynau treiddgar yn amrywio o bwy wnaeth fy ysbrydoli i fynd i fyd gwleidyddiaeth (fy nhad), yr hyn oedd yn mynd â’m prif sylw yn y gwaith ar hyn o bryd (20mya a cherdyn teithio i Gymru), fy hobïau (chwaraeon eithafol), ac yna cafwyd rownd cwestiynau cyflym hwyliog gan gynnwys dewisiadau cerddorol (Ed Sheeran, Ariana Grande, Adele) a dewisiadau chwaraeon (rygbi) ymhlith eraill!
Roedd Lillie, Alisha a Hannah yn gyfwelwyr gwych. Roedden nhw’n ddiddorol, yn hyderus ac yn amlwg wedi mwynhau'r cyfle i baratoi, cynllunio a chofnodi eu cyfweliadau. Fe wnaethon nhw greu argraff fawr arnaf yn wir ac fe wnaethon nhw fy nghadw i ar ymyl fy sedd!" ychwanegodd Natasha.
Meddai Miss Price: "Roedden ni i gyd wrth ein bodd yn croesawu Natasha i'n hysgol a'n stiwdio. Fe wnaeth y disgyblion fwynhau ei chyfweld yn fawr; roedd hi mor galonogol a chefnogol ac roedden nhw i gyd yn dweud pa mor ddiddorol oedd ei swydd fel AS. Yn bendant, mae gennym ni gyflwynwyr radio ac o bosib gwleidyddion y dyfodol yma yn ein hysgol!"
Ychwanegodd Natasha: "Roeddwn i mor falch o gefnogi a chymryd rhan yn y fenter Radio REACH a chanmol yr athrawon am greu'r cyfle i ddisgyblion archwilio a phrofi byd y cyfryngau."
Gallwch fwynhau’r cyfweliad drwy'r ddolen sydd yma Ysgol Gynradd Sant Andreas | Casnewydd | Cymru (standrews.cymru)