Natasha Asghar, Member of the Senedd for South Wales East today (07.09.2022) visited the Office of National Statistics (ONS) in Newport.
Newport’s ONS office has been a key provider of data during the pandemic to support Government decisions across the UK and produces some of the most important economic data forecasts for the country.
Natasha also visited the ONS’s Data Science Campus which provides facilities for Degree Apprenticeships for new staff and many learning opportunities for current staff.
Commenting on her visit, Natasha Asghar said:
“I was delighted to learn more about the work of the ONS and of its importance to support the work of Governments across the UK.”
“The recent pandemic clearly showed that the need for accurate, up to date data has never been so important and having the ONS Head Office based in Newport is a testament to the skills of the local workforce.”
“Having visited the Data Science Campus at the site, I was amazed to learn that they have recently taken on an extra 170 Degree Apprentices. Having spoken to several apprentices on my visit I realise they are integral to the growth and improvement of the ONS.”
“Ensuring that opportunities like this exist across Wales needs to be a key priority for the Welsh Government to retain as many of our skilled young people who too often struggle to find meaningful employment in their locality.”
Natasha Asghar yn llawn canmoliaeth i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dilyn ymweliad diweddar
Heddiw (07/09/2022), bu Natasha Asghar, Aelod o’r Senedd dros Dde Ddwyrain Cymru, yn ymweld â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghasnewydd.
Mae Swyddfa Ystadegau Gwladol Casnewydd wedi bod yn ddarparwr data allweddol yn ystod y pandemig gan gefnogi penderfyniadau Llywodraethau ledled y DU ac mae’n paratoi rhai o’r rhagolygon data economaidd pwysicaf ar gyfer y wlad.
Ymwelodd Natasha hefyd â Champws Gwyddoniaeth Data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol sy’n darparu cyfleoedd ar gyfer Gradd-brentisiaethau ar gyfer staff newydd a llawer o gyfleoedd dysgu ar gyfer staff presennol.
Gan roi sylwadau ar ei hymweliad, dywedodd Natasha Asghar:
“Roeddwn wrth fy modd yn cael dysgu mwy am waith y Swyddfa Ystadegau Gwladol a pha mor bwysig ydoedd i gefnogi gwaith Llywodraethau ledled y DU.”
“Dangosodd y pandemig diweddar yn glir bod yr angen am ddata cywir a chyfoes cyn bwysiced ag erioed ac mae cael pencadlys y Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghasnewydd yn tystio i sgiliau’r gweithlu lleol.”
“Ar ôl ymweld â’r Campws Gwyddoniaeth Data ar y safle, cefais syndod i ddeall eu bod wedi rhoi cyfle i 170 o Radd-brentisiaid pellach yn ddiweddar. Ar ôl siarad gyda llawer o brentisiaid ar fy ymweliad, rwy’n sylweddoli eu bod yn rhan hanfodol o dwf a gwelliant y Swyddfa Ystadegau Gwladol.”
“Dylai sicrhau bod cyfleoedd fel hyn ar gael ledled Cymru fod yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru er mwyn cadw cymaint â phosibl o’n pobl ifanc dawnus sy’n aml yn cael anhawster dod o hyd i gyflogaeth werth chweil yn eu hardal leol.”
“Rwy’n edrych ymlaen at glywed mwy gan dîm y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac rwy’n ddiolchgar am y cyfle i ymweld â nhw a dysgu am y gwaith hanfodol sydd ar y gweill.”
Diwedd
“I look forward to keeping up to date with the team at the ONS office and am grateful for the opportunity to visit and to learn about the vital work they are undertaking.”
Ends