Natasha Asghar MS is calling on residents in South East Wales to join Marie Curie’s biggest annual fundraising appeal to raise funds to ensure everyone gets the expert care and support they deserve at end of life.
The South East Wales politician joined Marie Curie staff and volunteers at the charity’s Great Daffodil Appeal launch at the Senedd last week.
The charity needs volunteers from across the South East Wales region to give just two hours of their time to hand out its iconic daffodil pins in return for donations. People can also join a Go Yellow day on March 21, fundraising by wearing or baking something yellow at work or school – or in any way that suits them.
Today one in four people don’t get the end of life care they need, and Marie Curie’s Great Daffodil Appeal encourages people to donate and wear a daffodil pin to help the charity continue to support people with any illness they’re likely to die from.
The charity’s flagship fundraiser, supported by headline partner Superdrug, helps raise much needed funds for Marie Curie Nurses and healthcare professionals to provide expert support and hospice care.
Marie Curie is dependent on public donations and last year supporters helped the charity provide direct care to more than 44,200 people across the UK via its nine hospices and through overnight nursing care in people’s own homes.
The money raised also funds the charity’s free support line and webchat, which is available to anyone with an illness they’re likely to die from and those close to them. It offers practical and emotional support on everything from symptom management and day-to-day care to financial information and bereavement support.
Natasha Asghar MS said: “The work Marie Curie do is needed now more than ever. That is why I’m encouraging people across the whole of South East Wales to show their support for the Great Daffodil Appeal in any way they can. Every donation means that when the time comes, Marie Curie can be there for people and their loved ones when they need it most.”
Claire Phillips, Marie Curie Head of Fundraising in Wales said:
“Launching our Great Daffodil Appeal in Wales at the Senedd is always an honour.
“Thank you to Jane Hutt MS for sponsoring once again, and to MSs for attending to meet our staff and the volunteers who are so vital to the Great Daffodil Appeal every year.
“Now in its 38th year, the appeal is a brilliant and fun way to join in, and we would love to see our dedicated existing volunteers joined by new faces whilst also helping us provide a vital service to those in the final chapter of their lives.
“Our team is on hand to support all our volunteers and make sure you have the best experience possible in order for you to help Marie Curie continue to provide expert end of life care and support for people with any illness they are likely to die from. If you’re interested, we’d love to hear from you.”
To find out more about how you can volunteer visit Mariecurie.org.uk/daffodil
During the Great Daffodil Appeal Marie Curie will once again lead the nation in a UK-wide Day of Reflection on the new date of Sunday 3 March 2024, asking individuals and communities to remember the people who died during the Covid pandemic, whatever the cause, and to show support for everyone who was bereaved.
In the run up to the Day of Reflection the charity will publish resources to support community groups wanting to host an event, and will also encourage individuals to observe the day. The day will include a minute’s silence at midday.
Superdrug is the headline partner for the Great Daffodil Appeal in 2024. You can also pick up a daffodil pin in any Superdrug store this March and help ensure everyone gets expert care and support right to the end. For information and to donate, please visit: Mariecurie.org.uk/daffodil
Ways to observe the day can be found at dayofreflection.org.uk
___________________________________________________________________________________________
Mae Natasha Asghar AS yn galw ar drigolion De-ddwyrain Cymru i ymuno ag apêl codi arian flynyddol fwyaf Marie Curie i godi arian a sicrhau bod pawb yn cael y gofal a'r cymorth arbenigol y maen nhw’n ei haeddu ar ddiwedd eu hoes.
Ymunodd yr Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru â staff a gwirfoddolwyr Marie Curie yn lansiad Apêl Fawr y Daffodil yr elusen yn y Senedd yr wythnos diwethaf.
Mae’r elusen angen gwirfoddolwyr o bob rhan o ranbarth Dwyrain De Cymru i roi dwy awr o'u hamser i ddosbarthu eu pinnau cennin Pedr eiconig yn gyfnewid am roddion. Gall pobl hefyd ymuno â diwrnod Go Yellow ar 21 Mawrth, codi arian trwy wisgo neu bobi rhywbeth melyn yn y gwaith neu'r ysgol - neu mewn unrhyw ffordd sy'n addas iddyn nhw.
Heddiw, dyw un o bob pedwar o bobl ddim yn cael y gofal diwedd oes sydd ei angen arnyn nhw, ac mae Apêl Fawr y Daffodil Marie Curie yn annog pobl i roi a gwisgo pin cennin Pedr i helpu'r elusen i barhau i gefnogi pobl ag unrhyw salwch y maen nhw’n debygol o farw ohono.
Mae prif godwr arian yr elusen, gyda chefnogaeth y prif bartner Superdrug, yn helpu i godi arian mawr ei angen ar gyfer Nyrsys Marie Curie a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddarparu cefnogaeth arbenigol a gofal hosbis.
Mae Marie Curie yn dibynnu ar roddion cyhoeddus a'r llynedd helpodd cefnogwyr yr elusen i ddarparu gofal uniongyrchol i fwy na 44,200 o bobl ledled y DU drwy ei naw hosbis a thrwy ofal nyrsio dros nos yng nghartrefi pobl.
Mae'r arian a godir hefyd yn ariannu llinell gymorth a gwesgwrs am ddim yr elusen, sydd ar gael i unrhyw un sydd â salwch y maen nhw’n debygol o farw ohono ac i’w hanwyliaid. Mae'n cynnig cefnogaeth ymarferol ac emosiynol ar bopeth o reoli symptomau a gofal o ddydd i ddydd i wybodaeth ariannol a chymorth mewn profedigaeth.
Meddai Natasha Asghar AS: "Mae angen y gwaith y mae Marie Curie yn ei wneud nawr yn fwy nag erioed. Dyna pam rwy'n annog pobl ledled De-ddwyrain Cymru gyfan i ddangos eu cefnogaeth i Apêl Fawr y Daffodil mewn unrhyw ffordd y gallan nhw. Mae pob rhodd yn golygu, pan ddaw'r amser, y gall Marie Curie fod yno i bobl a'u hanwyliaid pan fydd ei angen arnyn nhw fwyaf."
Meddai Claire Phillips, Pennaeth Codi Arian Marie Curie yng Nghymru:
"Mae lansio ein hapêl yng Nghymru yn y Senedd bob amser yn anrhydedd.
"Diolch i Jane Hutt AS am noddi unwaith eto, ac i Aelodau o’r Senedd am ddod i gwrdd â'n staff a'r gwirfoddolwyr sydd mor hanfodol i Apêl Fawr y Daffodil bob blwyddyn.
"Nawr yn ei 38ain flwyddyn, mae'r apêl yn ffordd wych a hwyliog o ymuno, a byddem wrth ein bodd yn gweld wynebau newydd yn ymuno â'n gwirfoddolwyr ymroddedig presennol tra hefyd yn ein helpu i ddarparu gwasanaeth hanfodol i'r rhai sy’n cyrraedd pennod olaf eu bywydau.
"Mae ein tîm wrth law i gefnogi ein holl wirfoddolwyr a sicrhau eu bod yn cael y profiad gorau posibl. Bydd hyn yn helpu Marie Curie i ddal ati i ddarparu gofal a chymorth diwedd oes arbenigol i bobl ag unrhyw salwch y maen nhw’n debygol o farw ohono. Os oes gennych chi ddiddordeb, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi."
I gael gwybod mwy am sut y gallwch wirfoddoli ewch i Mariecurie.org.uk/daffodil
Yn ystod Apêl Fawr y Daffodil bydd Marie Curie unwaith eto yn arwain Diwrnod o Fyfyrdod ledled y DU ar y dyddiad newydd sef dydd Sul 3 Mawrth 2024, gan ofyn i unigolion a chymunedau gofio'r bobl a fu farw yn ystod pandemig Covid, beth bynnag fo'r achos, ac i ddangos cefnogaeth i bawb sydd wedi dioddef profedigaeth.
Yn y cyfnod cyn y Diwrnod o Fyfyrdod bydd yr elusen yn cyhoeddi adnoddau i gefnogi grwpiau cymunedol sydd am gynnal digwyddiad, a bydd hefyd yn annog unigolion i nodi’r diwrnod. Bydd y diwrnod yn cynnwys munud o dawelwch am hanner dydd.
Superdrug yw'r prif bartner ar gyfer Apêl Fawr y Daffodil yn 2024. Gallwch hefyd brynu pin cennin Pedr mewn unrhyw siop Superdrug ym mis Mawrth eleni gan helpu i sicrhau bod pawb yn cael gofal a chymorth arbenigol tan y diwedd. Am wybodaeth ac i gyfrannu, ewch i: Mariecurie.org.uk/daffodil
Gellir dod o hyd i ffyrdd o nodi’r diwrnod yn dayofreflection.org.uk/cy/