Local Senedd Member, Natasha Asghar, is supporting the UK’s leading migraine charity, The Migraine Trust, in their campaign to improve migraine care for people across Wales and the UK.
One in seven people have migraine, a long-term painful condition, yet it is often not taken seriously and neglected by local health systems. This needs to change.
Natasha spoke to The Migraine Trust staff about their work to improve the lives of people with migraine through raising awareness, funding vital research and campaigning for better migraine healthcare. The charity works with many people living with the condition, who face problems ranging from challenges at work to difficulties accessing the right treatments and care.
Natasha Asghar said:
“I am pleased to support The Migraine Trust’s work to improve migraine care, and to end the stigma that many people feel exists around the condition. Migraine is a long-term painful condition that affects thousands of people in South East Wales region and across Wales.”
Rob Music, chief executive of The Migraine Trust added: “It is great to have the support of Natasha Asghar. Migraine is a serious condition that has been both dismissed and underinvested in for too long. We’re asking all healthcare systems to review their migraine needs and services, and are encouraging the Welsh Parliament, as well as all employers to be migraine-friendly employers and support The Migraine Trust’s call for real and positive change.”
For more information about migraine, its symptoms and treatments, visit migrainetrust.org if you or a loved one with migraine is in need of support, you can contact The Migraine Trust’s free helpline on 0808 802 0066 or via this form.
'''''''''''''''
Mae’r Aelod o’r Senedd lleol, Natasha Asghar, yn cefnogi elusen meigryn fwyaf blaenllaw’r DU, The Migraine Trust, yn eu hymgyrch i wella gofal meigryn ar gyfer pobl ledled Cymru a’r DU.
Mae un o bob saith o bobl yn dioddef o feigryn, sef cyflwr poenus hirdymor, ond yn aml nid yw’n cael ei ystyried o ddifrif ac mae’n cael ei esgeuluso gan systemau iechyd lleol yn aml. Mae angen newid hyn.
Siaradodd Natasha gyda staff The Migraine Trust am eu gwaith i wella bywydau pobl gyda meigryn drwy godi ymwybyddiaeth, ariannu ymchwil hanfodol ac ymgyrchu dros well gofal iechyd ar gyfer meigryn. Mae’r elusen yn gweithio gyda llawer o bobl ifanc sy’n byw gyda’r cyflwr, sy’n wynebu problemau yn amrywio o heriau yn y gwaith i anawsterau wrth gael gafael ar y triniaethau a’r gofal cywir.
Meddai Natasha Asghar:
“Rwy’n falch o gefnogi gwaith The Migraine Trust i wella gofal meigryn, ac i roi diwedd ar y stigma y mae llawer o bobl yn ei deimlo sy’n bodoli mewn perthynas â’r cyflwr. Mae meigryn yn gyflwr poenus hirdymor sy’n effeithio ar filoedd o bobl yn ne-ddwyrain Cymru ac yng ngweddill y wlad.”
Ychwanegodd Rob Music, prif weithredwr The Migraine Trust: “Mae’n wych cael cefnogaeth Natasha Asghar. Mae meigryn yn gyflwr difrifol sydd wedi’i ddiystyru a heb gael buddsoddiad digonol am rhy hir o lawer . Rydym yn gofyn i bob system gofal iechyd adolygu eu hanghenion a gwasanaethau meigryn, ac yn annog y Senedd, ynghyd â chyflogwyr i fod yn gyflogwyr ystyriol o bobl â meigryn a chefnogi galwad The Migraine Trust am newid positif go iawn.”