Natasha Asghar joined Chwarae Teg’s LeadHerShip programme in the Senedd to encourage more women to get involved in public life.
Despite progress, women are still under-represented at all levels of Welsh public life.
While 43% of Members of the Sixth Senedd are women, only 35% of MPs are women and for Local Councillors, the figure stands at just 29%, meaning women’s voices are often lost in decision making.
Clearly, barriers still remain to women entering and progressing in public life and research by Chwarae Teg with young women aged between 16 and 25 emphasised the importance of role models and mentoring programmes to breaking down these barriers.
Women wanted to see more relatable role models, mentoring and leadership programmes to equip them to achieve their potential; as well as peer groups and networks provide support in breaking down barriers and tackling gender stereotypes.
Natasha joined the discussion panel to address the fact that women remain underrepresented in Welsh public life and to tackle some of the barriers faced by women and demystify the world of politics.
Ends
Natasha yn annog rhagor o fenywod i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus
Ymunodd Natasha Asghar â rhaglen LeadHerShip Chwarae Teg yn y Senedd i annog mwy o fenywod i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus.
Er y cynnydd, mae menywod yn dal i gael eu tangynrychioli ar bob lefel o fywyd cyhoeddus yng Nghymru o hyd.
Er bod 43% o aelodau o’r Chweched Senedd yn fenywod, dim ond 35% o Aelodau Seneddol sy’n fenywod a dim ond 29% sy’n Gynghorwyr Lleol, sy’n golygu nad yw lleisiau menywod yn cael eu clywed yn aml wrth wneud penderfyniadau.
Yn amlwg, mae rhwystrau yn parhau i fenywod sy’n ymuno â bywyd cyhoeddus ac yn datblygu yno ac roedd ymchwil gan Chwarae Teg ymhlith menywod ifanc rhwng 16 a 25 oed yn pwysleisio pwysigrwydd modelau rôl a rhaglenni mentora i chwalu’r rhwystrau hyn.
Roedd menywod am weld mwy o fodelau rôl y gellid uniaethu â nhw, rhaglenni mentora ac arweinyddiaeth i sicrhau eu bod y barod i gyflawni eu potensial, ynghyd â grwpiau cymheiriaid a rhwydweithiau i ddarparu cymorth i chwalu rhwystrau a mynd i’r afael â stereoteipiau ar sail rhyw.
Ymunodd Natasha â’r panel trafod i fynd i’r afael â’r ffaith nad oes gan fenywod gynrychiolaeth ddigonol o hyd mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru a bu’n trafod rhai o’r rhwystrau sy’n wynebu menywod a phwysigrwydd esbonio’r byd gwleidyddol mewn ffordd glir.
Diwedd