Natasha Asghar MS, Senedd Member for South East Wales, has visited St Fagans National Museum of History to view an exhibition that celebrates Blaenau Gwent’s heritage as expressed through the talents of the people who live there.
She was welcomed to St Fagans by Cerith Rhys-Jones, External Affairs Manager for the Open University Cymru and Partnerships Co-Ordinator, Sarah Roberts.
The exhibition has been organised by Blaenau Gwent Residents Engaging in Arts, Culture and Heritage, known as BG REACH.
BG REACH is a partnership between The Open University in Wales, Linc Cymru Housing Association and the Aberbeeg Community Group with funding from UK Research and Innovation.
Natasha Asghar said:
“It was a delight to see the Exhibition. A huge thank you Cerith and Sarah for inviting me to visit this exhibition and for a wonderful tour of St Fagans Museum.”
“As the Senedd Member for South East Wales it was fascinating to see the culture and history of Blaenau Gwent so vividly on show and it was fantastic to see the contribution made by local residents.”
“The exhibition closes on 3 July 2022 so I encourage everybody interested in the rich history and natural beauty of Blaenau Gwent expressed through the talents of the people who live there to visit before then.”
Ends
Natasha yn ymweld ag arddangosfa i ddathlu treftadaeth Blaenau Gwent
Bu Natasha Asghar AS, Aelod o’r Senedd dros ranbarth Dwyrain De Cymru, yn ymweld â Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru i weld arddangosfa sy’n dathlu treftadaeth Blaenau Gwent, a hynny drwy gyfrwng doniau'r bobl sy’n byw yno.
Cafodd ei chroesawu i Sain Ffagan gan Cerith Rhys-Jones, Rheolwr Materion Allanol Prifysgol Agored Cymru a Sarah Roberts, y Cydlynydd Partneriaethau.
Mae’r arddangosfa wedi’i threfnu gan Blaenau Gwent Residents Engaging in Arts, Culture and Heritage, sef BG REACH.
Mae BG REACH yn bartneriaeth rhwng y Brifysgol Agored yng Nghymru, Cymdeithas Dai Linc Cymru a Grŵp Cymunedol Aberbîg gyda chyllid gan UK Research and Innovation.
Meddai Natasha Asghar:
“Roedd hi’n braf iawn gweld yr Arddangosfa. Diolch o galon i Cerith a Sarah am fy ngwahodd i ymweld â’r arddangosfa ac am daith anhygoel o gwmpas amgueddfa Sain Ffagan.”
“Fel Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru, roedd hi’n ddiddorol dros ben gweld diwylliant a hanes Blaenau Gwent mor fyw ac roedd hi’n hyfryd gweld cyfranogiad preswylwyr lleol.”
“Mae’r arddangosfa’n cau ar 3 Gorffennaf 2022, felly byddwn yn annog pawb sydd â diddordeb mewn gweld hanes cyfoethog a harddwch naturiol Blaenau Gwent wedi’i fynegi drwy ddoniau'r bobl sy’n byw yno i alw heibio cyn hynny.”
Diwedd