Natasha Asghar MS marked this year’s International Women’s Day by taking part in a series of events and making a statement in the Welsh Parliament.
Two young students, taking part in Chwarae Teg’s Leadership Scheme, spent several hours shadowing Natasha as she went about her work in the Welsh Parliament.
The students – Gabriella from Abertillery and Menna from Tintern – were given a unique insight into Natasha’s day-to-day life and met with several Welsh Conservative politicians including Tom Giffard MS and Andrew RT Davies MS.
After shadowing Natasha and asking her questions, Gabriella and Menna were given a tour of the Senedd and got the chance to visit the debating chamber.
The LeadHerShip event, which Natasha sponsored, aims to encourage more women from across Wales to consider a future career in politics.
Natasha later took part in a Q&A session alongside Jayne Bryant MS and Sioned Williams MS with the audience asking questions on a range of topics including diversity and period poverty.
The South East Wales politician also marked International Women’s Day by taking part in a panel event organised by Tata Steel and made a 90 Second Statement in the Welsh Parliament.
During the statement Natasha told the chamber:
“As we mark International Women’s Day, I hope that all members will join me in celebrating the groups, organisations and businesses in Wales that are working hard to build a more balanced and progressive workforce and I comment all of the women and men out there who are allies when it comes to creating more equality for women.
“I will always say to every woman who wants to achieve a certain dream ‘do not ever let someone’s comments, criticisms and negative feedback prevent you from the life that you desire, dream and aspire to achieve.’”
“A wise man once said to me ‘why should Mother’s Day be only one day of the year? It should be celebrated every single day of the year.’ And I hope that women are celebrated every day of every month of every year going forward.”
Speaking afterwards, Natasha Asghar MS said:
“International Women’s Day is a hugely important occasion, celebrating all the political, social, and cultural changes women have made and it was a real pleasure to get involved with a series of events in the Welsh Parliament this week.
“Nothing brings me greater joy than seeing women breaking barriers and smashing through glass ceilings in all aspects of life, and while we still have a long way to go, big changes are happening every single day.
“Taking part in the LeadHerShip event was a personal highlight for me because it was a truly wonderful to see so many young people with such a strong passion for politics and I hope to see some of them taking their seats in the Welsh Parliament one day.”
________________________________________________________
Nododd Natasha Asghar AS Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni drwy gymryd rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau a gwneud datganiad yn Senedd Cymru.
Treuliodd dwy myfyriwr ifanc, a oedd yn cymryd rhan yng Nghynllun Arweinyddiaeth Chwarae Teg, sawl awr yn cysgodi Natasha wrth iddi fynd ati i wneud ei gwaith yn Senedd Cymru.
Cafodd y myfyrwyr – Gabriella o Abertyleri a Menna o Dyndyrn – olwg unigryw ar fywyd bob dydd Natasha a chwrdd â nifer o wleidyddion Ceidwadol Cymreig gan gynnwys Tom Giffard AS ac Andrew RT Davies AS.
Ar ôl cysgodi Natasha a gofyn cwestiynau iddi, cafodd Gabriella a Menna daith o amgylch y Senedd a chael cyfle i ymweld â’r Siambr.
Nod digwyddiad LeadHerShip, a noddwyd gan Natasha, yw annog mwy o fenywod o bob rhan o Gymru i ystyried gyrfa mewn gwleidyddiaeth yn y dyfodol.
Yn ddiweddarach cymerodd Natasha ran mewn sesiwn holi ac ateb gyda Jayne Bryant AS a Sioned Williams AS gyda’r gynulleidfa yn gofyn cwestiynau ar ystod o bynciau gan gynnwys amrywiaeth a thlodi misglwyf.
Gwnaeth y gwleidydd o Dde Ddwyrain Cymru hefyd nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod drwy gymryd rhan mewn digwyddiad panel a drefnwyd gan Tata Steel a gwneud Datganiad 90 Eiliad yn Senedd Cymru.
Yn ystod y datganiad dywedodd Natasha wrth y Siambr:
“Wrth i ni nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, rwy’n gobeithio y bydd yr holl aelodau’n ymuno â mi i ddathlu’r grwpiau, y sefydliadau a’r busnesau yng Nghymru sy’n gweithio’n galed i feithrin gweithlu mwy cytbwys a blaengar ac rwy’n canmol pob un menyw a dyn sy’n gynghreiriaid o ran creu mwy o gydraddoldeb i fenywod.
“Byddaf bob amser yn dweud wrth bob menyw sydd am wireddu breuddwyd benodol ‘peidiwch byth â gadael i sylwadau, beirniadaethau ac adborth negyddol gan rywun eich rhwystro rhag byw’r bywyd rydych yn dymuno, yn breuddwydio ac yn anelu at ei gael.”
“Dywedodd dyn doeth wrthyf unwaith, ‘pam mai dim ond am un diwrnod y flwyddyn mae Sul y Mamau? Dylen ni ei ddathlu bob dydd o'r flwyddyn.’ A gobeithio y bydd merched yn cael eu dathlu bob dydd o bob mis o bob blwyddyn yn y dyfodol.”
Wrth siarad wedyn, dywedodd Natasha Asghar AS:
“Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn achlysur hynod bwysig, yn dathlu’r holl newidiadau gwleidyddol, cymdeithasol, a diwylliannol y mae menywod wedi’u gwneud ac roedd yn bleser pur cael cymryd rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau yn Senedd Cymru yr wythnos hon.
“Does dim byd yn dod â mwy o lawenydd i mi na gweld menywod yn torri rhwystrau ac yn torri trwy’r nenfwd gwydr ym mhob agwedd ar fywyd, ac er bod gennym ni ffordd bell i fynd o hyd, mae newidiadau mawr yn digwydd bob dydd.
“Roedd cymryd rhan yn nigwyddiad LeadHerShip yn uchafbwynt personol i mi oherwydd roedd yn wirioneddol wych gweld cymaint o bobl ifanc ag angerdd mor gryf dros wleidyddiaeth ac rwy’n gobeithio gweld rhai ohonyn nhw’n cymryd eu seddi yn Senedd Cymru rhyw ddydd.”