Natasha Asghar MS has pledged her support to the British Heart Foundation’s campaign to close the heart attack gender gap.
The South East Wales member learnt more about the gender gap and the work being undertaken by the British Heart Foundation at an event in the Senedd this week.
The charity believes women are not seen as being at risk of heart attacks, more likely to be misdiagnosed or diagnosed slowly and less likely to receive optimal treatment.
Natasha Asghar MS said:
“It is abundantly clear that more needs to be done to address the shocking heart attack gender gap in Wales and raise awareness of the health inequalities facing women.
“Many people think if a woman is fit and healthy she is less likely to have a heart attack, but it can happen to anyone at any age.
“I would like to thank the British Heart Foundation for staging such an interesting and informative event in the Senedd raising awareness of this important issue.
“I really hope the Welsh Government will listen to the charity’s concerns and brings forward a plan to address the health inequalities sooner rather than later.”
__________________________________________________________________________
Rhaid paratoi cynlluniau i gau’r bwlch rhwng y rhywiau o ran trawiad ar y galon
Mae Natasha Asghar AS wedi gwneud addewid i gefnogi ymgyrch Sefydliad Prydeinig y Galon i gau’r bwlch rhwng y rhywiau o ran trawiad ar y galon.
Yn ôl aelod Dwyrain De Cymru, cafodd gyfle i ddysgu mwy am y bwlch rhwng y rhywiau a’r gwaith sy’n cael ei wneud gan Sefydliad Prydeinig y Galon mewn digwyddiad yn y Senedd yr wythnos hon.
Mae’r elusen o’r farn nad yw menywod yn cael eu hystyried mewn risg o gael trawiad ar y galon, maen nhw’n fwy tebygol o gael camddiagnosis neu o gael diagnosis araf ac yn llai tebygol o gael y driniaeth orau bosibl.
Meddai Natasha Asghar AS:
“Mae’n gwbl amlwg bod angen gwneud mwy i fynd i’r afael â’r bwlch gwarthus sy’n bodoli rhwng y rhywiau yng Nghymru o ran trawiad ar y galon ac mae angen codi ymwybyddiaeth o’r anghydraddoldebau iechyd sy’n wynebu menywod.
“Mae llawer o bobl yn credu os yw menyw yn ffit ac yn iach ei bod yn llai tebygol o gael trawiad ar y galon, ond gall ddigwydd i unrhyw un ar unrhyw oedran.
“Hoffwn ddiolch i Sefydliad Prydeinig y Galon am drefnu digwyddiad mor ddiddorol a llawn gwybodaeth yn y Senedd gan godi ymwybyddiaeth o’r mater pwysig hwn.
“Rydw i’n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gwrando ar bryderon yr elusen ac yn cyflwyno cynllun er mwyn mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau iechyd cyn gynted ag y bo modd.”