Plans to build five new railway stations in South East Wales have been unveiled with the area’s Member of the Welsh Parliament encouraging the public to have their say.
Transport for Wales have revealed how the five new stations at Cardiff East, Newport West, Somerton, Llanwern and Magor and Undy could look.
It’s hoped the new stations will offer some relief to the congestion plagued M4.
Natasha Asghar MS, who represents South East Wales, is encouraging residents across her region to have their say by taking part in Transport for Wales’ public consultation.
She said: “For far too long, our train network has been letting passengers down and this is without a doubt a step in the right direction.
“Having consistently campaigned for a new station at Magor and Undy, I am particularly pleased to see these plans progress further.
“It is vital now that people all across South East Wales take part in the consultation and give their feedback to help shape these proposals.”
Residents can take part in the consultation by visiting https://haveyoursay.tfw.wales/sew-new-stations-and-services.
Drop-in sessions are also taking place at:
- Lliswery Baptist Church from 1pm until 7.30pm on October 23.
- Llanwern Village Hall from 12pm until 7.30pm on October 24.
- St Peter’s RFC from 12pm until 7.30pm on October 26.
- Maes Glas Community Centre from 12pm until 7.30pm on November 6.
- Glan Llyn Primary School from 4.45pm until 6.30pm on November 7.
- Magor and Undy Community Hub from 12pm until 7.30pm on November 9.
____________________________________________________________________________________________
Mae cynlluniau i adeiladu pum gorsaf reilffordd newydd yn Ne-ddwyrain Cymru wedi cael eu datgelu gydag Aelod o’r Senedd yr ardal yn annog y cyhoedd i ddweud eu dweud.
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi datgelu sut y gallai'r pum gorsaf newydd yn Nwyrain Caerdydd, Gorllewin Casnewydd, Somerton, Llanwern a Magwyr a Gwndy edrych.
Y gobaith yw y bydd y gorsafoedd newydd yn lliniaru rhywfaint ar y tagfeydd cyson ar yr M4.
Mae Natasha Asghar AS, sy'n cynrychioli Dwyrain De Cymru, yn annog trigolion ar draws ei rhanbarth i ddweud eu dweud drwy gymryd rhan yn ymgynghoriad cyhoeddus Trafnidiaeth Cymru.
Meddai: "Ers llawer yn rhy hir, mae ein rhwydwaith trenau wedi bod yn siomi teithwyr ac mae hyn heb os yn gam i'r cyfeiriad cywir.
"Ar ôl ymgyrchu'n gyson dros orsaf newydd ym Magwyr a Gwndy, rwy'n falch iawn o weld y cynlluniau hyn yn mynd rhagddynt ymhellach.
"Mae'n hanfodol nawr bod pobl ledled De-ddwyrain Cymru yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ac yn rhoi eu hadborth er mwyn helpu i lunio'r cynigion hyn."
Gall preswylwyr gymryd rhan yn yr ymgynghoriad drwy ymweld â https://haveyoursay.tfw.wales/sew-new-stations-and-services
Mae sesiynau galw heibio hefyd yn cael eu cynnal yn:
- Eglwys y Bedyddwyr Llyswyry rhwng 1pm a 7.30pm ar 23 Hydref.
- Neuadd Bentref Llanwern rhwng 12pm a 7.30pm ar 24 Hydref.
- Clwb Rygbi St Peter’s rhwng 12pm a 7.30pm ar 26 Hydref.
- Canolfan Gymunedol Maes Glas rhwng 12pm a 7.30pm ar 6 Tachwedd.
- Ysgol Gynradd Glan Llyn rhwng 4.45pm a 6.30pm ar 7 Tachwedd.
- Hwb Cymunedol Magwyr a Gwndy rhwng 12pm a 7.30pm ar 9 Tachwedd.