Nearly 300 new jobs are set to be created in South East Wales after a tech company was given the green light to build a new HQ.
SPTS Technologies, which creates and sells semiconductor equipment, is set to move from Ringland in Newport to Celtic Way after city councillors rubberstamped the construction plans.
It is expected the company can increase its number of employees from 360 to 650.
Natasha Asghar, who represents South East Wales in the Senedd and is the Shadow Minister for Technology, welcomed the news.
She said: “It is always fantastic to hear of new jobs being created in Wales, but it is even better when it is in your own back yard.
“This is an incredibly exciting opportunity for residents across the region and as Wales’ Shadow Minister for Technology I am delighted to see a top tech company expand their operations.
“This is a huge vote of confidence for South East Wales, and I hope to see more businesses set up shop in the region as we look to get the economy firing on all cylinders again.
______________________________________________________________________
Ehangu cwmni technoleg yn hwb enfawr i hyder yn y De-ddwyrain
Bydd 300 o swyddi newydd yn cael eu creu yn y De-ddwyrain ar ôl i gwmni technoleg gael caniatâd i adeiladu pencadlys newydd.
Mae SPTS Technologies, sy’n creu a gwerthu cyfarpar lled-ddargludyddion, yn bwriadu symud o Ringland yng Nghasnewydd i Celtic Way ar ôl i gynghorwyr y ddinas roi sêl bendith ar gynlluniau adeiladu.
Disgwylir i’r cwmni gynyddu nifer ei weithwyr o 360 i 650.
Mae Natasha Asghar, sy’n cynrychioli Dwyrain De Cymru yn y Senedd ac sy’n Weinidog yr Wrthblaid dros Dechnoleg, yn croesawu’r newyddion.
Meddai: “Mae bob amser yn braf iawn clywed am swyddi newydd yn cael eu creu yng Nghymru, ond mae hyd yn oed yn well gweld hyn yn digwydd ar eich rhiniog.
“Dyma gyfle cyffrous iawn i breswylwyr ledled y rhanbarth ac fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Dechnoleg rwyf ar ben fy nigon yn gweld cwmni technoleg blaenllaw yn ehangu eu gweithrediadau.
“Dyma hwb enfawr i hyder yn y De-ddwyrain, ac rwy’n gobeithio gweld mwy o fusnesau’n symud i’r rhanbarth wrth i ni geisio adfer yr economi yn ôl i’w llawn botensial unwaith eto.”