Tredegar House in Newport was given a festive makeover this week as the National Trust property’s Christmas celebrations got underway.
Natasha Asghar MS joined hundreds of people at the 17th century mansion on Friday (Dec 1) for the big Christmas light switch on and visit the house’s Unwrapping 500 years of Christmas traditions exhibition.
Tredegar House will be changing its opening hours on various dates throughout December to give as many people as possible the chance to visit.
Natasha Asghar MS, who represents South East Wales in the Welsh Parliament, said:
“I came away from Tredegar House feeling incredibly festive and it was great to see so many people getting into the Christmas spirit.
“From the spectacular display of lights to the fantastic creations inside the house, there really is something for all to see and enjoy.
“I would encourage everyone to kick start their Christmas by visiting Tredegar House’s impressive Christmas event.”
More information, including details of extended opening hours, can be found here: https://t.co/f9IEOBgrPp
___________________________________________________
Cafodd Tŷ Tredegar yng Nghasnewydd ei weddnewid dros yr ŵyl yr wythnos hon gyda dechrau dathliadau Nadolig eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Ymunodd Natasha Asghar AS â channoedd o bobl yn y plasty o’r 17eg ganrif ddydd Gwener (1 Rhagfyr) i droi’r goleuadau Nadolig ymlaen ac ymweld ag arddangosfa Datgloi 500 mlynedd o draddodiadau'r Nadolig.
Bydd Tŷ Tredegar yn newid ei oriau agor ar wahanol ddyddiadau gydol mis Rhagfyr er mwyn rhoi cyfle i gymaint o bobl â phosibl ymweld.
Meddai Natasha Asghar AS, sy'n cynrychioli Dwyrain De Cymru yn y Senedd:
"Dychwelais o Dŷ Tredegar yn teimlo'n hynod o Nadoligaidd ac roedd hi’n wych gweld cymaint o bobl yn mynd i ysbryd yr ŵyl.
"O'r arddangosfa o oleuadau syfrdanol i'r creadigaethau gwych y tu mewn i'r tŷ, mae yna rywbeth i bawb ei weld a'i fwynhau.
"Byddwn yn annog pawb i fynd i hwyl yr ŵyl drwy ymweld â digwyddiad Nadolig trawiadol Tŷ Tredegar."
Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys manylion oriau agor estynedig, ar gael yma: https://t.co/f9IEOBgrPp