A ‘brave and inspirational’ woman who fled war-torn Ukraine has turned a Newport pub into a roaring success.
Vladyslava Krapyvka left her home in Kyiv following Russia’s invasion of Ukraine and has settled in the city where she now runs The Lamb pub.
Natasha Asghar MS, who represents South Wales East in the Welsh Parliament, visited the Bridge Street pub this week to meet with Vladyslava and find out more about her business venture.
The pair discussed Vladyslava’s life before coming to Wales, the ongoing war, her family and how she ended up running one of South Wales’ oldest pubs.
Before taking over The Lamb’s lease, Vladyslava worked as a teaching assistant in Caldicot and as a military interpreter.
Vladyslava said she was really enjoying running The Lamb, describing it as a challenging yet interesting venture.
Commenting after the visit, Natasha Asghar MS said:
“It was an absolute pleasure to meet with the incredibly brave and inspirational Vladyslava who has completely transformed The Lamb.
“Seeing the city centre pub thrive under Vladyslava’s management was pure joy and I take my hat off to her and the team.
“I am looking forward to seeing the pub go from strength to strength and will support Vladyslava and her business in any way I can.”
_________________________________________________________________
Mae menyw 'ddewr ac ysbrydoledig' a ffodd o’r rhyfel yn Wcráin wedi troi tafarn yng Nghasnewydd yn llwyddiant ysgubol.
Gadawodd Vladyslava Krapyvka ei chartref yn Kyiv yn dilyn ymosodiad Rwsia ar Wcráin ac mae wedi ymgartrefu yn y ddinas lle mae hi bellach yn rhedeg tafarn The Lamb.
Ymwelodd Natasha Asghar AS, sy'n cynrychioli Dwyrain De Cymru yn y Senedd, â thafarn Stryd y Bont yr wythnos hon i gwrdd â Vladyslava a chael gwybod mwy am ei menter fusnes.
Bu'r ddwy yn trafod bywyd Vladyslava cyn dod i Gymru, y rhyfel parhaus, ei theulu a sut y glaniodd yn rhedeg un o dafarndai hynaf y De.
Cyn cymryd prydles The Lamb, bu Vladyslava yn gweithio fel cynorthwyydd dysgu yng Nghil-y-coed ac fel cyfieithydd milwrol.
Dywedodd Vladyslava ei bod yn mwynhau rhedeg The Lamb, gan ei disgrifio fel menter heriol ond diddorol iawn.
Ar ôl yr ymweliad, dywedodd Natasha Asghar AS:
"Roedd yn bleser pur cwrdd â Vladyslava, menyw hynod ddewr ac ysbrydoledig sydd wedi trawsnewid The Lamb yn llwyr.
"Roedd gweld tafarn canol y ddinas yn ffynnu o dan reolaeth Vladyslava yn llawenydd pur – gwaith arbennig ganddi hi a’i thîm.
"Rwy'n edrych ymlaen at weld y dafarn yn mynd o nerth i nerth a byddaf yn cefnogi Vladyslava a'i busnes mewn unrhyw ffordd y gallaf."