Our NHS staff go above and beyond every single day, but healthcare provision in South East Wales simply isn’t up to scratch.
Hospital waiting lists continue to spiral out of control, people cannot get an appointment to see their GP and there aren’t enough dentists.
I will continue to push for improvements to The Grange Hospital in Cwmbran because it is not acceptable people are being forced to wait hours upon end in A&E or in the back of an ambulance because there isn’t enough beds.
There are chronic shortages within all areas of our health service with the NHS currently missing nearly 3,000 registered nurses.
It is vital the Welsh Government examines not only pay within the Welsh NHS, but also key conditions such as mental health support, retention, upskilling and staffing gaps.
_________________________________________
Gwelliannau brys i'n gwasanaeth iechyd sydd dan bwysau
Mae ein staff GIG yn mynd yr ail filltir bob dydd, ond yn syml, dyw'r ddarpariaeth gofal iechyd yn Ne-ddwyrain Cymru ddim yn ddigon da.
Mae rhestrau aros ysbytai yn parhau i fod allan o reolaeth, dyw pobl ddim yn gallu cael apwyntiad i weld eu meddyg teulu a does dim digon o ddeintyddion.
Byddaf yn parhau i wthio am welliannau i Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân gan nad yw'n dderbyniol bod pobl yn cael eu gorfodi i aros oriau di-ri mewn adrannau damweiniau ac achosion brys neu yng nghefn ambiwlans am nad oes digon o welyau.
Mae prinder cronig ym mhob rhan o'n gwasanaeth iechyd ac mae'r GIG ar hyn o bryd yn colli bron i 3,000 o nyrsys cofrestredig.
Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn archwilio nid yn unig cyflogau yn GIG Cymru, ond hefyd amodau allweddol fel cymorth iechyd meddwl, cyfraddau cadw, uwchsgilio a bylchau staffio.