Natasha Asghar MS was given an insight into what it is like to be a police officer during a recent ride along with Gwent Police in Newport.
The MS for South East Wales spent the morning with some of the force’s officers, patrolling the city and getting a better understanding of their day-to-day duties.
During the ride along earlier this week, Natasha also chatted with police officers and staff about some of the challenges and struggles they face.
Natasha Asghar MS said:
“Everyone knows the majority of police officers across the country go above and beyond in tackling crime and keeping us all safe, but it was a great opportunity to see some of that work first-hand.
“It was an extremely eye-opening experience for me and I really do take my hat off to them because they do a stellar job in often difficult circumstances.
“After having some frank and open discussions with some of the officers I have met, it is clear that action could be taken to improve the police’s ability to help those in need.
“I have already written to the UK Government’s Home Secretary, Suella Braverman, about some of the issues raised with me during the ride along and will be raising some points in the Welsh Parliament imminently.”
___________________________________________
O wleidyddiaeth i blismona: AS yn blismon am y diwrnod
Cafodd Natasha Asghar AS flas ar sut beth yw bod yn blismon am y diwrnod ar daith ddiweddar gyda Heddlu Gwent yng Nghasnewydd.
Fe dreuliodd yr AS dros Dde Ddwyrain Cymru fore gyda rhai o swyddogion yr heddlu, yn patrolio'r ddinas a chael gwell dealltwriaeth o'u dyletswyddau o ddydd i ddydd.
Yn ystod y daith yn gynharach yr wythnos hon, bu Natasha hefyd yn sgwrsio gyda swyddogion yr heddlu a staff am rai o'r heriau a'r trafferthion sy'n eu hwynebu.
Meddai Natasha Asghar AS:
"Mae pawb yn gwybod bod y rhan fwyaf o swyddogion yr heddlu ledled y wlad yn mynd yr ail filltir i fynd i'r afael â throseddu a'n cadw ni i gyd yn ddiogel, ond roedd yn gyfle gwych i weld peth o'r gwaith yna gyda’m llygaid fy hun.
"Roedd yn agoriad llygad llwyr i mi ac rydw i wir yn eu hedmygu am wneud gwaith mor dda dan amgylchiadau anodd yn aml.
"Ar ôl cael trafodaethau gonest ac agored gyda rhai o'r swyddogion rydw i wedi cwrdd â nhw, mae'n amlwg y gellid mynd ati i wella gallu'r heddlu i helpu'r rhai mewn angen.
"Rydw i eisoes wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Cartref Llywodraeth y DU, Suella Braverman, am rai o'r materion a godwyd gyda mi yn ystod y daith a byddaf yn codi rhai pwyntiau yn y Senedd maes o law."