Natasha Asghar MS is encouraging anyone who can to drop off some much-needed food donations to their local Tesco store.
The South East Wales politician’s plea came after she visited a Tesco Extra in Newport as the supermarket’s Winter Food Collection got underway.
After dropping off two bags of dried goods herself, Natasha chatted with volunteers and staff at the store about this year’s collection, which runs until Saturday (Dec 3).
Now in its 10th year, the collection – which is run in partnership with The Trussell Trust - has seen some 45 million meals donated across the UK.
Natasha Asghar MS said:
“It was an honour to pop into Tesco to speak with some of the hardworking staff and volunteers about this year’s Winter Food Collection and donate some dried goods myself.
“With millions of people expected to use foodbanks this winter, the need for donations has never been greater and from what I was told residents across South East Wales have been incredibly generous already.
“If you are in a position to make a donation, please do because you can really do your bit to make someone’s Christmas that little bit better.”
All Tesco stores across the country are taking part in the Winter Food Collection.
__________________________________________________________________
AS yn cefnogi casgliad bwyd y gaeaf archfarchnad
Mae Natasha Asghar AS yn annog unrhyw un sy'n gallu gadael rhoddion bwyd mawr eu hangen i wneud hynny yn eu siop Tesco leol.
Daeth galwad y gwleidydd yn Ne Ddwyrain Cymru wedi iddi ymweld â Tesco Extra yng Nghasnewydd wrth i Gasgliad Bwyd y Gaeaf yr archfarchnad ddechrau.
Ar ôl rhoi dau fag o nwyddau sych ei hun, bu Natasha yn sgwrsio gyda gwirfoddolwyr a staff yn y siop am y casgliad eleni, sy'n para tan ddydd Sadwrn (3 Rhagfyr).
Dyma’r ddegfed flwyddyn i’r cynllun fod ar waith ac mae’r casgliad - sy'n cael ei gynnal mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Trussell - wedi gweld tua 45 miliwn o brydau'n cael eu rhoi ar draws y DU.
Meddai Natasha Asghar AS:
“Roedd hi’n fraint cael galw yn Tesco i siarad â rhai o'r staff a'r gwirfoddolwyr sy'n gweithio'n galed gyda Chasgliad Bwyd y Gaeaf eleni a rhoi nwyddau sych fy hun.
"Gyda'r disgwyl y bydd miliynau o bobl yn defnyddio banciau bwyd y gaeaf hwn, mae’r angen am roddion yn fwy nag erioed ac o’r hyn dwi wedi’i glywed, mae trigolion ledled De Ddwyrain Cymru wedi bod yn hynod o hael yn barod.
"Os ydych chi mewn sefyllfa i roi cyfraniad, gwnewch hynny oherwydd fe allwch chi wir wneud gwahaniaeth, gan sicrhau bod y Nadolig yma ychydig yn fwy llawen i rywun."
Mae holl siopau Tesco ledled y wlad yn cymryd rhan yng Nghasgliad Bwyd y Gaeaf.