Congratulations is in order for Craig Thomas, a site manager at a Redrow development in Sudbrook, who has won a top Pride in the Job award.
Natasha Asghar MS visited the company’s Mill Meadows development this week to meet with Craig and congratulate him in person.
Craig, who won the NHBC Pride in the Job Regional Award in the Large Builder Category, will now go onto the Supreme Awards in London next month.
The site manager, who joined Redrow in 2018, was selected from more than 8,000 managers across the UK to win big.
As well as meeting with Craig, Natasha toured the company’s Mill Meadows site and chatted with senior members of the team.
It also gave Natasha a chance to learn more about the company and the building industry.
They talked about the impact coronavirus had on getting materials, social housing, cladding, and getting more people to start a career in the industry.
Natasha Asghar, who represents South East Wales, said:
“I must say a massive congratulations to Craig for winning the Pride in the Job award. It is clear he goes above and beyond and this recognition is well deserved.
“Mill Meadows is an impressive site and it was great to be able to have a look around and chat with the team behind it about the housing industry and some of the challenges it faces.
“The building industry offers fantastic career opportunities and progression, but like many other sectors, is facing a shortage of skilled workers so it’s vital we do all we can to encourage more people into the industry.
“Thank you to everyone at Redrow and NHBC for showing me around Mill Meadows and the best of luck to Craig for next month’s Supreme Awards.”
_________________________________________________________
AS yn llongyfarch rheolwr safle ar ennill gwobr
Llongyfarchiadau mawr i Craig Thomas, rheolwr safle datblygiad Redrow yn Sudbrook, sydd wedi ennill gwobr fawreddog Balchder yn y Swydd.
Bu Natasha Asghar AS ar safle datblygiad Mill Meadows y cwmni yr wythnos hon i gwrdd â Craig a'i longyfarch yn bersonol.
Bydd Craig, a enillodd Wobr Ranbarthol Balchder yn y Swydd NHBC yn y Categori Adeiladwyr Mawr, nawr yn mynd ymlaen i'r Prif Wobrau yn Llundain fis nesaf.
Cafodd rheolwr y safle, a ymunodd â Redrow yn 2018, ei ddewis o blith dros 8,000 o reolwyr ledled y DU i ennill y brif wobr.
Yn ogystal â chyfarfod â Craig, aeth Natasha ar daith o amgylch safle Mill Meadows y cwmni a bu’n sgwrsio ag uwch aelodau o'r tîm.
Rhoddodd hefyd gyfle i Natasha ddysgu mwy am y cwmni a'r diwydiant adeiladu.
Cafwyd cyfle i siarad am yr effaith gafodd y coronafeirws ar sicrhau deunyddiau a thrafodwyd tai cymdeithasol, cladin, a chael mwy o bobl i ddechrau ar yrfa yn y diwydiant.
Dywedodd Natasha Asghar, sy'n cynrychioli De Ddwyrain Cymru:
"Llongyfarchiadau gwresog i Craig am ennill gwobr Balchder yn y Swydd. Mae'n amlwg ei fod yn mynd yr ail filltir ac mae'r gydnabyddiaeth hon yn un haeddiannol dros ben.
"Mae Mill Meadows yn safle trawiadol ac roedd yn wych gallu edrych o gwmpas a sgwrsio gyda'r tîm y tu ôl iddo am y diwydiant tai a rhai o'r heriau mae'n eu hwynebu.
"Mae'r diwydiant adeiladu yn cynnig cyfleoedd a dilyniant gyrfa gwych, ond fel sawl sector arall, mae'n wynebu prinder gweithwyr â sgiliau felly mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i annog mwy o bobl i mewn i'r diwydiant.
"Diolch i bawb yn Redrow ac NHBC am fy nhywys o amgylch Mill Meadows a phob lwc i Craig yn y Prif Wobrau y mis nesaf."