One of the fastest growing companies in Wales has been branded ‘completely phenomenal’ by Natasha Asghar MS.
Creo Medical, based in Chepstow, has the overarching mission to improve patient outcomes by applying Advanced Energy to the emerging field of surgical endoscopy.
Natasha, who represents South East Wales, visited the company’s headquarters to find out more about their technology, which is reducing the need for surgical intervention.
Creo Medical has a suite of solutions for clinicians and hospitals targeting critical procedures in the field of gastroenterology for therapeutic endoscopy.
The company’s advanced energy products are designed to endoscopically resect or ablate targeted tissue and lesions with unmatched control and safety.
Creo Medical’s products are being used daily across the world to treat patients.
The technology can ultimately improve patients’ lives, slash waiting times and save the NHS money.
For example, many patients who have been on the receiving end of Creo’s products during surgery are in-and-out of hospital within a day rather than prolonged periods of time – freeing up hospital beds and with minimal scarring.
Commenting after the visit, Natasha Asghar MS said:
“What Creo Medical is doing with its game-changing products is completely phenomenal and it’s clear to see why medical professionals around the world are using it.
“Creo’s cutting edge treatment has the power to drastically improve patients’ outcome, save the NHS money and reduce spiralling waiting times but as it stands the Welsh NHS has not yet taken this technology up.
“I take my hat off to the team at Creo Medical for all the fantastic work they are doing and it’s great to have this company operating from my region of South East Wales.
“I will be highlighting this technology with the Health Minister because it has the power to deliver huge benefits for the people of Wales and our cherished health service.”
____________________________________________________________________________
Mae un o'r cwmnïau sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru wedi cael ei frandio'n ‘gwbl ryfeddol’ gan Natasha Asghar AS.
Cenhadaeth Creo Medical, sydd wedi'i leoli yng Nghas-gwent, yw gwella canlyniadau cleifion trwy gymhwyso Ynni Uwch i faes endosgopi llawfeddygol newydd.
Ymwelodd Natasha, sy’n cynrychioli De Ddwyrain Cymru, â phencadlys y cwmni i ddarganfod mwy am eu technoleg, sy’n lleihau’r angen am ymyrraeth lawfeddygol.
Mae gan Creo Medical gyfres o ddatrysiadau ar gyfer clinigwyr ac ysbytai sy'n targedu gweithdrefnau critigol ym maes gastroenteroleg ar gyfer endosgopi therapiwtig.
Mae cynhyrchion ynni datblygedig y cwmni wedi'u cynllunio i dorri neu dynnu meinwe wedi'i dargedu a briwiau yn endosgopig gyda rheolaeth a diogelwch heb ei ail.
Mae cynhyrchion Creo Medical yn cael eu defnyddio bob dydd ar draws y byd i drin cleifion.
Gall y dechnoleg yn y pen draw wella bywydau cleifion, lleihau amseroedd aros ac arbed arian i'r GIG.
Er enghraifft, mae llawer o gleifion sydd wedi bod yn derbyn cynhyrchion Creo yn ystod llawdriniaeth yn mynd i mewn ac allan o'r ysbyty o fewn diwrnod yn hytrach na chyfnodau hir o amser - gan ryddhau gwelyau ysbyty a heb fawr o greithiau.
Wrth drafod ar ôl yr ymweliad, dywedodd Natasha Asghar AS:
“Mae'r hyn y mae Creo Medical yn ei wneud gyda’i gynnyrch arloesol yn gwbl ryfeddol ac mae’n amlwg pam bod gweithwyr meddygol proffesiynol ledled y byd yn ei ddefnyddio.
“Mae gan driniaeth flaengar Creo y pŵer i wella canlyniadau cleifion yn sylweddol, arbed arian i'r GIG a lleihau amseroedd aros cynyddol ond, ar hyn o bryd, nid yw GIG Cymru wedi manteisio ar y dechnoleg hon eto.
“Rwy’n codi fy het i’r tîm yn Creo Medical am yr holl waith anhygoel y maent yn ei wneud ac mae’n wych bod y cwmni hwn yn gweithredu yn fy rhanbarth yn Ne-ddwyrain Cymru.
“Byddaf yn tynnu sylw’r Gweinidog Iechyd at y dechnoleg hon oherwydd mae ganddi’r pŵer i sicrhau manteision enfawr i bobl Cymru a’n gwasanaeth iechyd annwyl.”