A talented pupil from Monmouth Prep School has been crowned the winner of Natasha Asghar’s 2023 Christmas Card competition.
Seb Shepherd, aged 11, submitted a festive animal themed card as part of the South East Wales politician’s annual festive competition.
All schools in the region were invited to come up with creative Christmas card designs, and Natasha was impressed with all the wonderful entries.
Cards featuring Seb’s design has been sent to a range of dignitaries including The King, Prime Minister and First Minister.
Talking about his design, Seb said: "My Christmas card design includes some of my favourite animals which are endangered. I have Christmas wishes that soon they will no longer be endangered species."
Natasha visited Monmouth Prep School this week to present Seb with prizes, a certificate and copies of his card.
Natasha said: “Picking this year’s winner was an incredibly hard task as I received some amazing entries from schools across the region.
“Seb’s design was unique and colourful, and he really put his heart into this design. You can tell it means a lot to him.
“Huge congratulations to Seb and all those who entered. Thank you to everyone for taking part in this year’s competition.”
__________________________________________________________________________________
Mae disgybl talentog o Ysgol Baratoadol Trefynwy wedi ennill cystadleuaeth Cerdyn Nadolig 2023 Natasha Asghar.
Cyflwynodd Seb Shepherd, 11 oed, gerdyn thema anifeiliaid fel rhan o gystadleuaeth flynyddol yr Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru.
Gwahoddwyd pob ysgol yn y rhanbarth i feddwl am ddyluniadau cardiau Nadolig creadigol, a gwnaeth yr holl gynigion gwych argraff ar Natasha.
Mae cardiau sy'n cynnwys dyluniad Seb wedi cael eu hanfon at amrywiaeth o bwysigion gan gynnwys y Brenin, Prif Weinidog Cymru a Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig.
Wrth siarad am ei gynllun, dywedodd Seb: "Mae dyluniad fy ngherdyn Nadolig yn cynnwys rhai o’m hoff anifeiliaid sydd mewn perygl. Fy nymuniad Nadolig yw na fyddan nhw mewn perygl mwyach."
Ymwelodd Natasha ag Ysgol Baratoadol Trefynwy yr wythnos hon i gyflwyno gwobrau, tystysgrif a chopïau o'i gerdyn i Seb.
Meddai Natasha: "Roedd dewis enillydd eleni yn dasg andros o galed gan fy mod wedi derbyn ceisiadau anhygoel gan ysgolion ar draws y rhanbarth.
"Roedd dyluniad Seb yn unigryw a lliwgar ac yn llawn ysbryd. Gallwch ddweud ei fod yn golygu llawer iddo.
"Llongyfarchiadau mawr i Seb a phawb a gymerodd ran. Diolch i bawb am gymryd rhan yn y gystadleuaeth eleni."