Natasha Asghar, Member of Senedd for South East Wales, will this weekend be taking part in the RSPB’s Big Garden Birdwatch.
This year’s event takes place on 28, 29 and 30 January 2022. The public is asked to spend just one hour watching and recording the birds in their garden, balcony or local park, then send their results to the RSPB. Last year in Wales, a whopping 53,279 people spent an hour watching the birds that visit their garden or outdoor space, double the previous year’s participation numbers, and returning 33,385 surveys.
Over the past year, we’ve seen how important the natural world is to our mental health and wellbeing. There has been a surge in interest in the nature on our doorsteps and many people have come to rely on garden birds to bring joy and comfort in these unsettling times.
Just one hour every year, for the last four decades, has made the RSPB’s Big Garden Birdwatch the largest garden wildlife citizen science project. Now in its 43rd year, well over 150 million birds have been counted giving the RSPB an astonishing amount of insight into how our wildlife is faring.
Natasha Asghar said:
“I am delighted to support the RSPB’s Big Garden Birdwatch which plays such a useful role in increasing awareness of the natural world and the importance of supporting wildlife and their habitats.”
For four decades, Big Garden Birdwatch has highlighted the winners and losers in the garden bird world. The house sparrow remained at the top of the Big Garden Birdwatch rankings as the most commonly seen garden bird, seen in 76% of gardens throughout the weekend. The starling climbed up to 2nd place, pushing the blue tit down one position to 3rd, and we saw the robin climb three places up to 6th place.
While house sparrows and starlings may be amongst the UK’s most commonly sighted birds, a closer look at Big Garden Birdwatch data shows that numbers have in fact dropped dramatically since the Birdwatch began in 1979. House sparrows are down 58% while starlings are down 83%.
To take part in the Big Garden Birdwatch 2022, watch the birds in your garden or local park for one hour at some point over the three days. Only count the birds that land, not those flying over. Tell the RSPB the highest number of each bird species you see at any one time – not the total you see in the hour.
Visit, www.rspb.org.uk/birdwatch
ENDS
.....
Asghar yn cymryd rhan yn nigwyddiad gwylio adar mwyaf
Arolwg Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB (28-30 Ionawr 2022)
Y penwythnos hwn, bydd Natasha Asghar, Aelod o’r Senedd dros Dde-ddwyrain Cymru, yn cymryd rhan yn Arolwg Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB.
Cynhelir y digwyddiad eleni ar 28, 29 a 30 Ionawr 2022. Gofynnir i’r cyhoedd dreulio awr yn gwylio a chofnodi’r adar yn eu gardd, ar eu balconi neu yn eu parc lleol, yna anfon eu canlyniadau i’r RSPB. Y llynedd yng Nghymru, treuliodd cymaint â 53,279 o bobl awr yn gwylio’r adar sy’n ymweld â’u gardd neu ardal agored arall, dwbl y nifer a gymerodd ran y flwyddyn flaenorol, gan ddychwelyd 33,385 o arolygon.
Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gweld pa mor bwysig yw byd natur i’n hiechyd meddwl a’n lles. Mae cymaint o bobl wedi cymryd diddordeb mewn byd natur ar garreg eu drws a llawer wedi dod i ddibynnu ar adar yr ardd i ddod â llawenydd a chysur yn yr amseroedd cythryblus hyn.
Mae awr yn unig bob blwyddyn, am y pedwar degawd diwethaf, yn golygu mai Arolwg Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB yw’r prosiect gwyddoniaeth bywyd gwyllt yr ardd mwyaf i ddinasyddion. Nawr yn ei 43ain mlynedd, mae ymhell dros 150 miliwn o adar wedi’u cyfrif gan roi llawer iawn o wybodaeth i’r RSPB am sefyllfa ein bywyd gwyllt.
Meddai Natasha Asghar:
“Rwy’n falch o gefnogi Arolwg Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB sydd mor ddefnyddiol ar gyfer cynyddu ymwybyddiaeth o fyd natur a phwysigrwydd cefnogi bywyd gwyllt a’u cynefinoedd.”
Am bedwar degawd mae’r Arolwg Gwylio Adar wedi dangos yr adar gardd sy’n ffynnu ac yn ffaelu. Cadwodd aderyn y to ei le ar frig sgoriau Arolwg Adar yr Ardd fel yr aderyn a welwyd fwyaf mewn gerddi, gan ymweld â 76% o erddi gydol y penwythnos. Cododd y ddrudwen i’r 2il safle, gan wthio’r titw tomos las i’r 3ydd safle, a chododd y robin goch dri safle i’r 6ed safle.
Er bod adar y to a drudwyod ymysg yr adar a welwyd fwyaf yn y DU, mae golwg fanylach ar ddata Arolwg Adar yr Ardd yn dangos bod niferoedd wedi gostwng yn sylweddol ers dechrau cynnal yr arolwg ym 1979. Mae adar y to wedi gostwng 58% a drudwy 83%.
I gymryd rhan yn Arolwg Adar yr Ardd 2022, gwyliwch yr adar yn eich gardd neu barc lleol am un awr rywbryd dros y tri diwrnod. Dylech gyfrif yr adar sy’n glanio yn unig, nid y rhai sy’n hedfan drosodd. Dywedwch wrth yr RSPB beth yw’r nifer uchaf o bob rhywogaeth adar a welwch ar unrhyw adeg benodol - nid y cyfanswm a welwch mewn awr.
Ewch i www.rspb.org.uk/birdwatch
DIWEDD