Natasha Asghar MS, Senedd Member for South East Wales, visited a local distillery set up during lockdown to hear about their ambitious plans to expand Spirit of Wales, which opened in 2021 and produces affordable premium spirits that embody our Celtic roots and Wales’s industrial heritage.
Natasha was welcomed to the distillery by the Chief Executive of Spirit of Wales, Daniel Dyer, and Head Distiller, James Gibbons.
The Spirit of Wales opened in 2021 and produces affordable premium spirits that embody our Celtic roots and Wales’s industrial heritage.
Even though the business only opened in 2021, Spirit of Wales won two silver medals from The Spirit Business for their Steeltown Welsh White Rum and their Dragon’s Breath Welsh Spiced Rum.
Natasha Asghar said:
“It was truly inspiring to visit Spirit of Wales, a business that was set up during lockdown and has already won awards for its products.”
“During the visit I heard about their ambitious plans to develop and expand the company and it is wonderful to know that new businesses are opening, growing and thriving even in these difficult times”
“I would like to thank Daniel and James for their warm welcome and for allowing me to visit Spirit of Wales.”
“I wish them every success for the future.”
Ends
Ymweliad â distyllfa yng Nghasnewydd yn codi calon Natasha
Bu Natasha Asghar AS, Aelod o’r Senedd dros ranbarth Dwyrain De Cymru, yn ymweld â distyllfa leol a agorwyd yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud i glywed am eu cynlluniau uchelgeisiol i ehangu. Spirit Of Wales, a agorwyd yn 2021 ac sy’n cynhyrchu gwirod premiwm fforddiadwy sy’n ymgorffori ein gwreiddiau Celtaidd a threftadaeth ddiwydiannol Cymru.
Croesawyd Natasha i’r ddistyllfa gan Daniel Dyer, Prif Weithredwr Spirit of Wales, a James Gibbons, y Prif Ddistyllydd.
Agorwyd Spirit of Wales yn 2021 ac mae’n cynhyrchu gwirod premiwm fforddiadwy sy’n ymgorffori ein gwreiddiau Celtaidd a threftadaeth ddiwydiannol Cymru.
Er mai ond yn 2021 yr agorwyd y busnes, enillodd Spirit of Wales ddwy fedal arian gan The Spirits Business am eu rỳm Steeltown Welsh White Rum a’r rỳm Dragon’s Breath Welsh Spiced Rum.
Meddai Natasha Asghar:
“Roedd ymweld â Spirit of Wales yn dipyn o ysbrydoliaeth. Dyma fusnes a sefydlwyd yn ystod y cyfnod clo ac sydd eisoes wedi ennill gwobrau am ei gynhyrchion.”
“Yn ystod yr ymweliad clywais am eu cynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu ac ehangu’r cwmni ac mae’n hyfryd gwybod bod busnesau newydd yn agor, yn tyfu ac yn ffynnu hyd yn oed mewn cyfnod anodd fel hwn.”
“Hoffwn ddiolch i Daniel a James am eu croeso cynnes ac am adael i mi ymweld â Spirit of Wales.”
“Pob llwyddiant yn y dyfodol.”
Diwedd
Nodyn i Olygyddion
Mae llun 1 yn dangos Natasha Asghar AS gyda Daniel Dyer, Prif Weithredwr Spirit of Wales, a James Gibbons, y Prif Ddistyllydd.