Natasha Asghar MS has congratulated the Magor Action Group on Rail (MAGOR) on being nominated for two top awards.
The group, which has been campaigning for a walkway station at Magor and Undy, has been nominated in the Best Rail Campaign and Best Rail Website categories at Railfuture’s annual Rail User Groups awards.
Natasha Asghar, the Senedd Member for South East Wales, has previously backed the group’s calls for the new railway station.
MAGOR’s proposals, which would involve staggered platforms, drop-off points and disabled parking, would also create a direct rail link between Magor and Undy and Bristol for commuters.
Natasha Asghar MS has previously raised the group’s proposals with Grant Shapps MP, the UK Government’s Transport Minister.
Natasha Asghar MS said:
“Everyone involved in the MAGOR campaign deserves a huge round of applause for being nominated not once but twice in this year’s awards..
“Having previously met with the group, I can say this nomination is well-deserved. They have a set of sensible proposals which would make life easier for commuters and encourage more people in the area to leave their cars at home and use public transport.
“I will be keeping my fingers crossed for the group at this year’s awards and will continue championing MAGOR’s campaign for a new walkway station.”
______________________________________
AS yn llongyfarch grŵp gweithredu rheilffyrdd ar ôl ei enwebu am wobrau o fri
Mae Natasha Asghar AS wedi llongyfarch Grŵp Gweithredu Magwyr ar Reilffyrdd (MAGOR) ar gael ei enwebu am ddwy wobr o fri.
Mae’r grŵp, sydd wedi bod yn ymgyrchu dros orsaf hygyrch i gerddwyr ym Magwyr a Gwndy, wedi’i enwebu yn y categorïau Ymgyrch Reilffordd Orau a Gwefan Reilffordd Orau yng ngwobrau Grwpiau Defnyddwyr Rheilffyrdd blynyddol Railfuture.
Yn flaenorol, mae Natasha Asghar, Aelod o’r Senedd dros Dde Ddwyrain Cymru, wedi cefnogi galwadau’r grŵp am orsaf reilffordd newydd.
Byddai cynigion MAGOR, a fyddai’n cynnwys platfformau croesgam, mannau gollwng teithwyr a pharcio i’r anabl, yn creu cyswllt rheilffordd uniongyrchol rhwng Magwyr a Gwndy a Bryste ar gyfer cymudwyr hefyd.
Yn y gorffennol, mae Natasha Asghar AS wedi trafod cynigion y grŵp gyda Grant Shapps AS, Gweinidog Trafnidiaeth Llywodraeth y DU.
Meddai Natasha Asghar AS:
“Mae pawb sydd wedi cyfrannu at ymgyrch MAGOR yn haeddu eu cryn ganmoliaeth am gael eu henwebu, nid unwaith ond ddwywaith yng ngwobrau eleni.
“Ar ôl cyfarfod y grŵp o’r blaen, gallaf ddweud bod yr enwebiad yn gwbl haeddiannol. Mae ganddyn nhw gyfres o gynigion doeth a fyddai’;n gwneud bywyd yn haws i gymudwyr ac yn annog mwy o bobl yn yr ardal i adael eu ceir gartref a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
“Byddaf yn croesi fy mysedd dros y grŵp yng ngwobrau eleni ac yn dal ati i roi sylw i ymgyrch MAGOR dros orsaf newydd hygyrch i gerddwyr.”