The Labour Government has announced that it will not be reinstating the £3 million a year airlink between Cardiff and Anglesey.
The Welsh Conservatives have been questioning Labour Ministers to confirm the future of the flightpath over a year.
Earlier today, statistics were released showing a 44% decrease in passenger numbers at Cardiff Airport in 2021 compared to 2020 despite an easing of restrictions.
Commenting on the news, Welsh Conservative Shadow Transport Minister, Natasha Asghar MS said:
“Whilst I understand some people will be frustrated with this news, I believe it is the right decision especially given around £3 million of taxpayer cash is used to prop the service up every year. I despise any task that fritters away taxpayers’ hard-earned money and keeping this service going would have done just that.
“It is, however, disappointing that Labour ministers have only now axed the airlink. Instead of wasting some £10m on the airlink, which hasn’t operated since the pandemic began, over the last three years, they should’ve taken decisive action and scrapped it as soon as it became a loss-making exercise.
“The pandemic has drastically changed the way people work and with many now working from home the demand for the airlink simply isn’t there.
“It is vital Labour ministers now start heavily investing in transport infrastructure and connectivity in North Wales and make sure those affected by this decision aren’t losing out. By having the flights removed, I shall be keeping a very close eye on the Labour Government to ensure that they actually spend the money they are saving on improving transport links for local residents. ”
Ends
Mae Llywodraeth Lafur wedi cyhoeddi na fydd yn ailgychwyn y cysylltiad awyr £3 miliwn y flwyddyn rhwng Caerdydd ac Ynys Môn.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn cwestiynu Gweinidogion Cymru ers dros flwyddyn er mwyn cadarnhau dyfodol y llwybr hedfan.
Yn gynharach heddiw, cyhoeddwyd ystadegau yn dangos gostyngiad o 44% yn nifer y teithwyr ym Maes Awyr Caerdydd yn 2021 o gymharu â 2020 er gwaetha’r llacio mewn cyfyngiadau.
Yn rhoi sylwadau ar y newyddion, dywedodd Natasha Asghar AS, Gweinidog Trafnidiaeth yr Wrthblaid dros y Ceidwadwyr Cymreig:
“Er fy mod yn deall y bydd rhai yn rhwystredig gyda’r newyddion hwn, rwy’n credu mai dyma’r penderfyniad cywir o ystyried bod oddeutu £3 miliwn o arian trethdalwyr yn cael ei ddefnyddio i gynnal y gwasanaeth bob blwyddyn. Rwy’n casáu unrhyw dasg sy’n llyncu arian prin trethdalwyr a byddai cadw’r gwasanaeth hwn yn yr awyr wedi gwneud hynny.
“Fodd bynnag, mae’n siomedig mai dim ond nawr mae Gweinidogion Cymru wedi cael gwared ar y cyswllt awyr. Yn hytrach na gwastraffu tua £10 miliwn ar y cyswllt awyr, sydd ddim wedi rhedeg ers dechrau’r pandemig, dros y tair blynedd diwethaf, dylent fod wedi cymryd camau pendant a chael gwared ar y gwasanaeth yn syth pan ddechreuodd golli arian.
“Mae’r pandemig wedi newid y ffordd y mae pobl yn gweithio yn llwyr a gan fod cymaint yn gweithio gartref dyw’r galw am y gwasanaeth ddim yno bellach.
“Mae’n hollbwysig bod Gweinidogion Llafur yn dechrau buddsoddi’n sylweddol mewn seilwaith trafnidiaeth a chysylltedd yn y Gogledd a sicrhau bod y rhai sy’n cael eu heffeithio gan y penderfyniad hwn ddim ar eu colled. Nawr bod y gwasanaeth wedi ei ddileu, byddaf yn cadw llygad barcud ar Lywodraeth Lafur i sicrhau ei bod yn gwario’r arian sy’n cael ei arbed ar wella cysylltiadau trafnidiaeth i breswylwyr lleol.”
Diwedd