Natasha Asghar, Senedd Member for South East Wales, has pledged her support for the steel industry on a visit to Tata Steel UK’s Llanwern Works.
Natasha met with representatives of Tata Steel to discuss the many issues facing steel production in the UK including energy prices, decarbonisation, using more home produced steel in infrastructure projects and creating a level trading field internationally.
During the discussion, Natasha pledged her full support for the continuation of steel production in the UK.
The visit concluded with a tour of the works.
Commenting afterwards, the Welsh Conservative Senedd Member for South Wales East said:
“It was a pleasure to visit Tata Steel’s Llanwern operation to discuss the challenges facing the industry and to pledge my full support for the continuation of steel production in the UK.”
“Steel is one of the most widely used materials in the world and is essential to our construction and manufacturing industries. Recent events abroad have demonstrated the fragility of global supply chains and the importance of strengthening them at home.”
“It is vital we do all we can to support domestic steel production and address the challenges the industry faces as our economy would be much poorer without it.”
“I would like to thank everyone at Tata Steel for allowing me to visit and for a fascinating and highly informative meeting and tour of the works.”
ENDS
Mae Natasha Asghar, Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru, wedi addo ei chefnogaeth i'r diwydiant dur wrth ymweld â Gwaith Llanwern Tata Steel UK.
Cyfarfu Natasha â chynrychiolwyr Tata Steel i drafod y problemau niferus sy'n wynebu cynhyrchu dur yn y DU gan gynnwys prisiau ynni, datgarboneiddio, defnyddio mwy o ddur a gynhyrchir gartref mewn prosiectau seilwaith a chreu sefyllfa fasnachu deg yn rhyngwladol.
Yn ystod y drafodaeth, addawodd Natasha ei chefnogaeth lawn i barhad cynhyrchu dur yn y DU.
Daeth yr ymweliad i ben gyda thaith o amgylch y gwaith.
Wrth roi sylwadau ar ôl ei hymweliad, dywedodd Aelod o’r Senedd y Ceidwadwyr Cymreig dros Ddwyrain De Cymru:
"Roedd hi’n bleser ymweld â gwaith Tata Steel yn Llanwern i drafod yr heriau sy'n wynebu'r diwydiant ac addo fy nghefnogaeth lawn i barhad cynhyrchu dur yn y DU."
"Dur yw un o'r deunyddiau a ddefnyddir fwyaf yn y byd ac mae'n hanfodol i'n diwydiannau adeiladu a gweithgynhyrchu. Mae digwyddiadau diweddar dramor wedi dangos pa mor fregus yw cadwyni cyflenwi byd-eang a phwysigrwydd eu cryfhau gartref."
"Mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi cynhyrchu dur domestig a mynd i'r afael â'r heriau y mae'r diwydiant yn eu hwynebu gan y byddai ein heconomi yn llawer tlotach hebddo."
"Hoffwn ddiolch i bawb yn Tata Steel am ganiatáu i mi ymweld ac am gyfarfod a thaith hynod ddiddorol ac addysgiadol o amgylch y gwaith."
Diwedd