Natasha Asghar MS has added her voice to the ever-growing chorus of calls to bring next year’s Eurovision Song Contest to Wales.
Talks are underway for the UK to host the annual competition amid fears last year’s winners Ukraine will not be able to hold it due to the ongoing war.
Natasha, who represents South East Wales, made the case for Wales to host the extravagant event during a Welsh Conservative debate in the Senedd this week.
She told the chamber: “Events in the East mean that next year’s Eurovision is unlikely to be held in Kyiv, a departure from the norm that can at best be described as an ABBA-ration.
“The BBC is now in talks with the European Broadcasting Union to potentially host the contest, something the UK has done a record eight times previously.
“I believe the perfect venue is the Principality Stadium, which can hold 74,500 people. The stadium has a proven track record of successfully holding major music concerts as we saw earlier with the Ed Sheeran concert.
“Eurovision would also provide an opportunity to market and publicise the attractions of Wales as a tourist destination to an international audience of millions.
“From the ‘Rock Bottom’ of our stunning mountains to the beautiful ‘Sandie Shaws’ of our coastlines, holding this unique event has the potential to deliver huge long-term benefits for our economy by raising our profile as a nation.”
Speaking after Wednesday’s debate, Natasha Asghar MS said:
“It is of course incredibly sad that Ukraine will not be able to host the Eurovision Song Contest despite claiming the top spot in this year’s competition.
“However, we have a real opportunity to put Wales well and truly on the world stage by holding the colourful contest in Cardiff.
“Millions of people around the world tune in every year and tens of thousands of people would descend on Wales should our dream become a reality – giving our economy a much-needed boost as we bounce back from the pandemic.
“It is a promising sign that the Senedd backed our motion and I hope the Welsh Government works closely with the BBC and European Broadcasting Union bring Eurovision to Wales next year.”
___________________________________________________________________________________________
Byddai cynnal Eurovision yn gyfle i arddangos Cymru i’r byd, meddai AS
Mae Natasha Asghar AS wedi mynegi ei chefnogaeth i’r galwadau cynyddol i ddod â’r gystadleuaeth Eurovision Song Contest i Gymru'r flwyddyn nesaf.
Mae trafodaethau’n cael eu cynnal er mwyn i’r DU gynnal y gystadleuaeth flynyddol oherwydd pryderon na fydd Wcráin, enillydd eleni, yn gallu ei chynnal oherwydd y rhyfel parhaus.
Bu Natasha, sy’n cynrychioli Dwyrain De Cymru, yn cyflwyno’r achos i Gymru gynnal y digwyddiad clodfawr yn ystod dadl y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd yr wythnos hon.
Dywedodd wrth y siambr: “Mae digwyddiadau yn y Dwyrain yn golygu ei bod yn annhebygol y bodd modd cynnal Eurovision y flwyddyn nesaf yn Kyiv, sydd yn groes i’r traddodiad.
“Mae’r BBC mewn trafodaethau gyda’r Undeb Darlledu Ewropeaidd i gynnal y gystadleuaeth, rhywbeth y mae’r DU wedi’i wneud wyth gwaith yn y gorffennol, mwy o weithiau nac unrhyw wlad arall.
“Rwy’n credu mai Stadiwm y Principality yw’r lleoliad delfrydol, gan ei bod yn dal 74,500 o bobl. Mae gan y stadiwm hanes profedig o gynnal cyngherddau cerddoriaeth llwyddiannus fel y gwelsom gyda chyngerdd Ed Sheeran.
“Byddai Eurovision hefyd yn cynnig cyfle i farchnata atyniadau Cymru a rhoi cyhoeddusrwydd i’r wlad fel cyrchfan i dwristiaid, a hynny i gynulleidfa ryngwladol o filiynau.
“O gopa’r Wyddfa i lawr i’w thraethau, o’r de i’r gogledd, o Fôn i Fynwy, byddai cynnal y digwyddiad hwn yn gallu sicrhau buddiannau hirdymor enfawr i’n heconomi drwy godi ein proffil fel cenedl.”
Gan siarad ar ôl y ddadl ddydd Mercher, dywedodd Natasha Asghar AS:
“Wrth gwrs, mae’n hynod o drist na fydd Wcráin yn gallu cynnal cystadleuaeth
Eurovision er bod y wlad wedi ennill y gystadleuaeth eleni.
“Fodd bynnag, mae hwn yn gyfle gwirioneddol i roi Cymru ar lwyfan y byd drwy gynnal y gystadleuaeth fawreddog yng Nghaerdydd.
“Mae miliynau o bobl bedwar ban byd yn gwylio’r gystadleuaeth bob blwyddyn a byddai degau o filoedd o bobl yn heidio i Gymru pe bai’n breuddwyd yn dod yn wir - gan roi hwb mawr ei angen ar ein heconomi wrth i ni ddod dros y pandemig.
“Mae’n galonogol gweld bod y Senedd o blaid ein cynnig ac rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda’r BBC a’r Undeb Darlledu Ewropeaidd i ddod â chystadleuaeth Eurovision i Gymru'r flwyddyn nesaf.”