Natasha Asghar MS has been putting South East Wales firmly on the world stage during a recent trip to the United States of America.
The politician headed stateside to attend CES, the world’s biggest technology trade show, in Las Vegas.
CES, held at various locations across the Nevada city, showcased some of the emerging technology innovations from around the world.
This year’s event included some 3,200 exhibitors and was attended by more than 115,000 people.
Natasha met with a vast array of companies, tech giants and industry leaders to see how their products and innovations could benefit South East Wales and the rest of the country.
With the NHS under immense pressure, one product that stood out for Natasha in particular from the health section was MedWand – a new handy health tool which will allow patients to access top quality health care from anywhere in the world.
The device allows you to check vital information, which in turn enables your doctor to effectively diagnose you during a video check-up.
It has sensors which can listen to your heart, measure heart rate, perform an ECG, listen to your lungs, measure blood oxygen levels, and listen to your abdomen. It can even look inside your nose, throat, mouth, and ears.
After receiving a short demonstration and chatting with senior staff at the company, Natasha firmly believes MedWand has the potential to seriously change the landscape when it comes to providing health care from afar and alleviate pressure on our health services.
Residents across South East Wales who have multiple health issues and those who struggle to get out and about would benefit most from something like MedWand being rolled out.
Another game-changing innovation which caught Natasha’s eye was Nuvilab’s AI Food Scanner, which can help reduce food waste and offer instant information about nutritional value.
The scanner is an all-in-one device that scans the food on your plate before you start eating in one second and immediately provides you with information about nutrients.
By scanning your plate once you’ve finished eating, the scanner will be able to see how much food has been wasted and what the cost of that waste is.
The device, developed by the South Korean company, will give users the opportunity to tailor portion sizes to reduce waste and ultimately save money for individuals, businesses, local authorities, and the Welsh Government
Natasha would love to see the scanner initially installed in schools across South East Wales in a bid to save money and educate students on the importance of a healthy diet.
In Korea, the food scanner is currently operational in hospitals, cafeterias, restaurants, and schools.
Some of the other impressive products on show included solar powered cars, electric powered trucks, state-of-the art EV charging points, PCR testing at home devices, and self-driving cars.
Natasha also took part in a Women in Tech Q&A session and attended countless seminars covering a range of topics including health, transport, the economy, and media.
The South East Wales politician also held talks with Markus Schäfer, Member of the Board of Management of Mercedes-Benz and the company’s chief technology officer, about the businesses’ future plans to create electric vehicle charging point forecourts and other imminent developments.
Natasha also sat down with Lindsay Jurist-Rosner, CEO of Wellthy, to talk about her company, which is transforming family care and easing the burden on unpaid carers.
Natasha Asghar, Member of the Welsh Parliament for South East Wales, said:
“It was a fantastic opportunity to attend the world’s biggest tech conference and see first-hand some of the incredibly innovative products emerging from around the world.
“Without a doubt, many of the things I saw would greatly benefit residents across South East Wales – and the rest of the country – when it comes to areas of transport, health, and the economy.
“I have built up some fantastic connections with the leaders of some of the world’s biggest companies as well as the up-and-coming businesses and industry giants and am looking forward to working closely with them going forward.
“It is clear the lives of people living in Wales could be greatly benefited by some of the things I saw first-hand at CES and I am determined to work with the Welsh Government, and those whom I met in the US, to hopefully bring them to Wales and ultimately benefit the day-to-day lives of the people of Wales.”
_____________________________________________
AS yn rhoi De Ddwyrain Cymru yn amlwg ar y map ar ymweliad â chynhadledd dechnoleg fwyaf y byd
Mae Natasha Asghar AS wedi bod yn rhoi De Ddwyrain Cymru yn amlwg ar lwyfan y byd yn ystod taith ddiweddar i’r Unol Daleithiau.
Bu’r gwleidydd yn ymweld â CES, sef sioe fasnach dechnoleg fwyaf y byd, yn Las Vegas.
Roedd CES, a gynhelir mewn gwahanol leoliadau ledled dinas Nevada, yn arddangos rhai o'r datblygiadau arloesol ym maes technoleg sy'n dod i'r amlwg o bob cwr o'r byd.
Roedd y digwyddiad eleni yn cynnwys tua 3,200 o arddangoswyr ac roedd dros 115,000 o bobl yn bresennol.
Cyfarfu Natasha ag amrywiaeth eang o gwmnïau, cewri’r byd technoleg ac arweinwyr diwydiant i weld sut y gallai eu cynnyrch a'u harloesedd fod o fudd i Dde Ddwyrain Cymru a gweddill y wlad.
Gyda'r GIG o dan bwysau aruthrol, un cynnyrch a oedd yn sefyll allan i Natasha yn arbennig o'r adran iechyd oedd MedWand - adnodd iechyd defnyddiol newydd a fydd yn caniatáu i gleifion gael mynediad at ofal iechyd o'r ansawdd uchaf o unrhyw le yn y byd.
Mae'r ddyfais yn eich galluogi i wirio gwybodaeth hanfodol, sydd yn ei dro yn galluogi eich meddyg i roi diagnosis effeithiol i chi yn ystod archwiliad fideo.
Mae ganddo synwyryddion sy'n gallu gwrando ar eich calon, mesur cyfradd curiad y galon, perfformio ECG, gwrando ar eich ysgyfaint, mesur lefelau ocsigen y gwaed, a gwrando ar eich abdomen. Gall hyd yn oed edrych y tu mewn i'ch trwyn, eich gwddf, eich ceg, a'ch clustiau.
Ar ôl derbyn arddangosiad byr a sgwrsio gydag uwch staff yn y cwmni, mae Natasha yn credu'n gryf bod gan MedWand y potensial i newid y sefyllfa o ddifrif o ran darparu gofal iechyd o bell ac ysgafnhau’r pwysau ar ein gwasanaethau iechyd.
Trigolion ledled De Ddwyrain Cymru sydd â nifer o broblemau iechyd a'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd mynd allan ac o gwmpas fyddai’n elwa fwyaf ar gyflwyno rhywbeth fel MedWand.
Arloesedd pwysig arall a ddenodd sylw Natasha oedd Sganiwr Bwyd AI Nuvilab, a all helpu i leihau gwastraff bwyd a chynnig gwybodaeth ar unwaith am werth maethol.
Mae'r sganiwr yn ddyfais popeth-mewn-un sy'n sganio'r bwyd ar eich plât cyn i chi ddechrau bwyta mewn un eiliad ac yn rhoi gwybodaeth am faetholion i chi ar unwaith.
Drwy sganio'ch plât ar ôl i chi orffen bwyta, bydd y sganiwr yn gallu gweld faint o fwyd sydd wedi cael ei wastraffu a beth yw cost y gwastraff hwnnw.
Bydd y ddyfais, a ddatblygwyd gan gwmni o Dde Corea, yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr deilwra meintiau dognau i leihau gwastraff ac yn y pen draw arbed arian i unigolion, busnesau, awdurdodau lleol, a Llywodraeth Cymru
Byddai Natasha wrth ei bodd yn gweld y sganiwr yn cael ei osod mewn ysgolion ledled y De-ddwyrain i ddechrau mewn ymgais i arbed arian ac addysgu myfyrwyr am bwysigrwydd diet iach.
Yng Nghorea, mae'r sganiwr bwyd yn cael ei ddefnyddio mewn ysbytai, caffis, bwytai, ac ysgolion ar hyn o bryd.
Roedd rhai o'r cynhyrchion trawiadol eraill sy'n cael eu harddangos yn cynnwys ceir pŵer solar, tryciau sy’n cael eu pweru gan drydan, pwyntiau gwefru cerbydau trydan o'r radd flaenaf, profion PCR ar ddyfeisiau cartref, a cheir hunan-yrru.
Bu Natasha hefyd yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb Merched mewn Technoleg a mynychodd seminarau di-ri a oedd yn trafod ystod o bynciau gan gynnwys iechyd, trafnidiaeth, yr economi, a'r cyfryngau.
Cynhaliodd drafodaethau hefyd gyda Markus Schäfer, Aelod o Fwrdd Rheoli Mercedes-Benz a phrif swyddog technoleg y cwmni, am gynlluniau'r busnesau yn y dyfodol i greu llefydd i wefru cerbydau trydan a datblygiadau eraill sydd ar y gweill.
Bu Natasha hefyd yn eistedd i lawr gyda Lindsay Jurist-Rosner, Prif Swyddog Gweithredol Wellthy, i siarad am ei chwmni, sy'n trawsnewid gofal teuluol ac yn ysgafnhau’r baich ar ofalwyr di-dâl.
Meddai Natasha Asghar, Aelod o’r Senedd dros Dde Ddwyrain Cymru:
“Roedd yn gyfle gwych i fynychu cynhadledd dechnoleg fwyaf y byd a gweld rhai o'r cynhyrchion hynod arloesol sy'n dod i'r amlwg o bedwar ban byd.
"Heb os, byddai nifer o'r pethau a welais i o fudd mawr i drigolion ledled De Ddwyrain Cymru - a gweddill y wlad – o ran meysydd trafnidiaeth, iechyd, a'r economi.
"Rwyf wedi meithrin cysylltiadau gwych gydag arweinwyr rhai o gwmnïau mwyaf y byd yn ogystal â'r busnesau addawol a'r cewri diwydiant ac rwy'n edrych ymlaen at weithio'n agos gyda nhw wrth symud ymlaen.
"Mae'n amlwg y gallai pobl sy'n byw yng Nghymru elwa’n fawr ar rai o'r pethau a welais yn uniongyrchol yn CES ac rwy'n benderfynol o weithio gyda Llywodraeth Cymru, a'r rhai hynny y cwrddais â nhw yn yr Unol Daleithiau, gobeithio, i ddod â nhw i Gymru ac, yn y pen draw, i fod o fudd i fywydau pobl Cymru o ddydd i ddydd."