Local Senedd Member, Natasha Asghar, has visited Newport Docks to discuss the potential of a bid by Associated British Ports for a Freeport to be established in South Wales.
In May it was announced that the UK and Welsh Governments had come to an agreement to collaborate and deliver a new Freeport in Wales.
Backed by £26 million in UK government funding, the Freeport will support the regeneration of communities in Wales by attracting new businesses, jobs and investment, as well as growing the Welsh economy.
Bidders must show how they will create high-quality employment opportunities offering good salaries and conditions and meet the governments’ shared climate change commitments to reach net zero by 2050.
Natasha Asghar said:
“Freeports are similar to ‘enterprise zones’, which are designated areas subject to a broad array of special regulatory requirements, tax breaks and government support. The difference is that a freeport is designed to specifically encourage businesses that import, process and then re-export goods, rather than more general business support or regeneration objectives.”
“Freeports are intended to stimulate economic activity in their designated areas and I am determined that South Wales should reap the benefits of this ground breaking agreement between the UK and Welsh Governments.”
“It is vital that ABP, Local Authorities and the Welsh Government work together in developing the best possible case for a South Wales Freeport.”
“I would like to thank Simon Brown, the Divisional Port Manager for ABP Wales and South West, for a fascinating discussion on a potential bid and to Tom Batchelor for giving me a tour of the site.”
Ends
Asghar yn trafod Porthladdoedd Rhydd yn ystod ymweliad â Dociau Casnewydd
Mae'r Aelod Lleol o'r Senedd, Natasha Asghar, wedi ymweld â Dociau Casnewydd i drafod potensial cais gan Gymdeithas Porthladdoedd Prydain i sefydlu Porthladd Rhydd yn y De.
Ym mis Mai, cyhoeddwyd fod Llywodraethau Cymru a’r DU wedi cytuno i gydweithio a darparu Porthladd Rhydd newydd yng Nghymru.
Gyda chyllid o £26 miliwn gan Lywodraeth y DU, bydd y Porthladd Rhydd yn cefnogi adfywiad cymunedau yng Nghymru drwy ddenu busnesau, swyddi a buddsoddiad newydd, ynghyd â hybu twf economi Cymru.
Mae’n rhaid i gynigwyr ddangos sut y byddan nhw’n creu cyfleoedd cyflogaeth o ansawdd uchel gyda chyflogau ac amodau da a bodloni ymrwymiadau newid hinsawdd a rennir gan y ddwy lywodraeth i gyflawni sero net erbyn 2050.
Meddai Natasha Asghar:
“Mae Porthladdoedd Rhydd yn debyg i ‘ardaloedd menter’, sef ardaloedd dynodedig sy’n destun casgliad eang o ofynion rheoleiddio arbennig, gostyngiadau treth a chymorth gan y llywodraeth. Y gwahaniaeth yw mai amcan penodol porthladd rhydd yw annog busnesau sy’n mewnforio, prosesu ac yna’n ailallforio nwyddau, yn hytrach na chymorth busnes mwy cyffredinol neu amcanion adfywio.”
“Bwriad porthladdoedd rhydd yw ysgogi gweithgaredd economaidd yn eu hardaloedd dynodedig ac rwy'n benderfynol y dylai De Cymru elwa ar y cytundeb arloesol hwn rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.”
"Mae'n hanfodol bod Cymdeithas Porthladdoedd Prydain, Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i ddatblygu'r achos gorau posib dros Borthladd Rhydd yn Ne Cymru.”
“Hoffwn ddiolch i Simon Brown, Rheolwr Porthladd Rhanbarthol Cymdeithas Porthladdoedd Prydain Cymru a De Orllewin Lloegr, am drafodaeth hynod ddiddorol ar gais posib ac i Tom Batchelor am roi taith o amgylch y safle i mi."
Diwedd