Queen Elizabeth II was admired and loved for her wisdom, dignity, grace and patience, Natasha Asghar MS told the Senedd yesterday (September 11).
The South East Wales Member of the Senedd paid tribute to Her Majesty The Queen, who passed away last Thursday, during a recalled Welsh Parliament session.
She told the chamber:
“News of the passing of Her Majesty the Queen has left the nation in a state of profound sadness and loss.
“The Queen was a constant presence in most of our lives. Her first Prime Minister, Winston Churchill, was born in 1874. Her last Prime Minister, appointed only a few days ago, was born in 1975 - 101 years later.
“That alone just exemplifies the length of time she has devoted to the service of her people, both here and abroad.
“The Queen was sustained by faith and driven by duty.
“Some of my fondest memories of Her Majesty were watching her each Christmas address the nation. My family’s entire Christmas Day revolved around the Queen’s speech.
“Her message was always one of hope. It was heartfelt, optimistic, and inspirational.
“In often turbulent and worrying times the Queen stood strong, providing confidence and reassurance that all would be well in the world.
“Regardless of her own personal circumstances, health issues and, more recently, the passing of Prince Philip, our Queen stood strong, nurturing, and uplifting during times of hardship and struggle.
“Her speeches were elevating, refined and, above all else, relatable to all of us in one way or another.
“As a young child I was asked often by family and friends: ‘So, what do you want to be when you grow up?’, to which a five-year-old Natasha Asghar used to confidently look them in the eye and say, ‘I want to be the Queen.’
“Naturally, I realised fairly quickly that the role was not one that was open for applications.
“I adored the Queen for her hard work, her poise under all circumstances, and the love that she held for her country.
“As politicians here in the Welsh Parliament, we can only aspire to do what she did for as long as she did with the same level of grace, dignity, patience, and kindness.
“Her sense of civic duty, community and charity were incredible, and her contribution to the United Kingdom and the Commonwealth will provide a lasting legacy
Natasha Asghar added:
“Our Prime Minister, Liz Truss, said in her tribute that the Queen was a tremendous inspiration to her, and I could not agree with her more.
“The Queen was a fantastic role model for countless women across the globe, from various backgrounds and ethnicities, admired and loved for her wisdom, dignity, grace, and patience.
“It was an honour to meet Her Majesty when she came to Cardiff for the opening of the sixth Welsh Parliament.
“It was a moment that I will cherish for the rest of my life, and I know many of my colleagues sitting here amongst us today here in the Welsh Parliament will, too.
“On behalf of myself and all of the residents of South East Wales, the United Kingdom, and the Commonwealth, I would like to thank Her Majesty Queen Elizabeth II for her lifetime of dedicated and devoted service.
“I know only too well the pain that one experiences on losing a parent, and my thoughts and prayers are with the King, his brothers, his sister, and the rest of the Royal Family at this very sad time.
“The Queen always told us to be strong through times of hardship, and today we all need to uphold the strength and courage she possessed to bear her loss.
“The highest tribute to the dead is not grief, but gratitude.
“To quote Ralph Waldo Emerson: ‘'The purpose of life is to be useful, to be honourable, to be compassionate, to have it make some difference that you have lived and lived well.’
“That can certainly be said of Her Majesty.
“May she rest in peace. Her kindness was legendary, her smile was contagious and her memory will live on in our hearts forever.”
_______________________________________
Roedd y Frenhines Elizabeth II yn cael ei hedmygu a’i charu am ei doethineb, ei hurddas, ei gras a’i hamynedd, meddai Natasha Asghar AS yn y Senedd ddoe (Medi 11).
Rhoddodd yr Aelod o’r Senedd dros Dde-ddwyrain Cymru deyrnged i’w Mawrhydi’r Frenhines, a fu farw dydd Iau diwethaf, yn ystod sesiwn ar ôl ail-alw’r Senedd.
Meddai wrth y Siambr:
“Mae’r newyddion am farwolaeth Ei Mawrhydi’r Frenhines wedi gadael y genedl yn drist iawn wrth deimlo’r golled.
“Roedd y Frenhines yn bresenoldeb cyson yn y rhan fwyaf o’n bywydau. Ganed ei Phrif Weinidog cyntaf, Winston Churchill ym 1874. Ganed ei Phrif Weinidog diwethaf, a benodwyd ond rai dyddiau yn ôl, ym 1975 - 101 mlynedd yn ddiweddarach.
“Mae hynny yn ei hun yn cyfleu hyd y cyfnod y mae wedi’i ymroi i wasanaethu ei phobl, yma a thramor.
“Cafodd y Frenhines ei chynnal gan ffydd a’i hysgogi gan ei dyletswydd.
“Un o’m hatgofion gorau o Ei Mawrhydi oedd ei gweld yn annerch y genedl bob Nadolig. Roedd Diwrnod Nadolig fy nheulu cyfan yn cael ei drefnu o gwmpas anerchiad y Frenhines.
“Roedd ei neges yn un llawn gobaith bob amser. Roedd ei geiriau yn dod o’r galon, yn obeithiol ac yn ysbrydoledig.
“Ar adegau cythryblus a phryderus yn aml, safai’r Frenhines yn gadarn, gan roi hyder a sicrwydd y byddai popeth yn iawn.
“Beth bynnag fo’i hamgylchiadau personol, ei phroblemau iechyd, ac yn fwy diweddar, yn dilyn marwolaeth y Tywysog Philip, safodd y Frenhines yn gadarn, gan feithrin a chalonogi mewn amser o galedi a thrybini.
“Roedd ei hareithiau yn calonogi, yn dwymgalon ac uwchlaw popeth, roedd pawb yn gallu uniaethu mewn rhyw ffordd.
“Fel plentyn ifanc, gofynnwyd yn aml i mi gan deulu a ffrindiau: “Felly, beth wyt ti am fod ar ôl tyfu i fyny?”, a byddai Natasha Asghar bump oed yn edrych arnyn nhw’n llawn hyder a dweud, ‘Dwi am fod y Frenhines.’
“Yn naturiol, sylweddolais yn gyflym iawn bod y rôl honno wedi ei llenwi ac nad oedd cais am geisiadau.
“Roeddwn i’n addoli’r Frenhines am ei gwaith caled, ei chymeriad cadarn doed a ddel, a’r cariad a oedd ganddi i’w gwlad.
“Fel gwleidyddion yma yn y Senedd, gallwn dim ond ceisio efelychu’r hyn a wnaeth hi am gymaint o amser gyda’r un lefel o ras, urddas, amynedd a charedigrwydd.
“Roedd ei hymdeimlad o ddyletswydd ddinesig, o gymuned ac o gymwynasgarwch yn anhygoel, a bydd ei chyfraniad i’r Deyrnas Unedig a’r Gymanwlad yn gadael gwaddol parhaol.
Ychwanegodd Natasha Asghar:
“Dywedodd ein Prif Weinidog, Liz Truss, yn ei theyrnged bod y Frenhines yn ysbrydoliaeth ragorol iddi, ac rwy’n cytuno gant y cant.
“Roedd y Frenhines yn esiampl wych i gymaint o fenywod ym mhedwar ban byd, o gefndiroedd ac ethnigrwydd amrywiol, ac roedd yn cael ei hedmygu a’i charu am ei doethineb, ei hurddas, ei gras a’i hamynedd.
“Roedd hi’n anrhydedd cyfarfod Ei Mawrhydi pan ddaeth i Gaerdydd ar gyfer agoriad y chweched Senedd.
“Roedd yn eiliad y byddaf yn ei thrysori am weddill fy mywyd, ac rwy’n gwybod o y bydd llawer o’m cydweithwyr sy’n eistedd yma heddiw yn y Senedd yn teimlo’r un fath.
“Ar ran fy hun a holl breswylwyr De-ddwyrain Cymru, y Deyrnas Unedig a’r Gymanwlad, hoffwn ddiolch i’w Mawrhydi'r Frenhines Elizabeth II am ei hoes o wasanaeth ymroddedig.
“Rwy’n gwybod yn iawn y boen y mae rhywun yn ei deimlo wrth golli rhiant, ac estynnaf fy nghydymdeimladau dwys i’r Brenin, ei frodyr, ei chwaer a gweddill y Teulu Brenhinol yn y cyfnod trist hwn.
“Roedd y Frenhines wastad yn dweud wrthym am fod yn gryf drwy galedi, a heddiw mae angen i bawb gynnal y cryfder a’r dewrder a oedd ganddi wrth ddelio â’i cholli.
“Y deyrnged fwyaf i’r meirw yw diolchgarwch, nid galar.
“I ddyfynnu Ralph Waldo Emerson: “Diben bywyd yw bod yn ddefnyddiol, i fod yn anrhydeddus, i fod yn drugarog, i deimlo eich bod wedi gwneud rhywfaint o wahaniaeth yn byw a byw’n dda.”
“Mae hynny’n sicr yn wir am Ei Mawrhydi’.
“Boed iddi orffwys mewn hedd. Roedd ei charedigrwydd yn ddihafal, ei gwen yn heintus a bydd yn byw ymlaen yn ein calonnau am byth.”